Skip to content

Gogledd Cymru

Ogwen © Crown copyright (2010) Croeso Cymru
Rhwng safleoedd a setliadau allweddol yn bennaf y mae pobl yng ngogledd Cymru yn teithio wrth fynd a dod rhwng y dwyrain a'r gorllewin.



Ein nod yw:

  • Sicrhau bod y coridor ffyrdd rhwng y dwyrain a'r gorllewin yn fwy dibynadwy a'i fod yn fwy diogel a lleihau'r amser teithio o un pen iddo i'r llall
  • Darparu rhywdwaith mwy effeithlon sy'n llai tebygol o achosi tagfeydd
  • Parhau i ddatblygu'r ffyrdd mwyaf priodol, a chynaliadwy, o ddatrys problemau trafnidiaeth yn y gogledd-ddwyrain.

Mae'r A55 yn rhan o'r Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd, sy'n cysylltu Iwerddon â gweddill Ewrop. Hwn yw'r prif lwybr teithio yng Ngogledd Cymru.
Bydd gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth yn yr ardal hon hefyd yn helpu i weithredu rhaglen adfywio Môn a Menai.

Byddwn yn:

  • Cynyddu capasiti yr A55 ar draws Afon Menai, gan gynnwys lle i gerddwyr a beicwyr
  • Mynd i'r afael â'r problemau o ran y rhwydwaith ar yr A55 o Abergwyngregyn i Dai'r Meibion, a'r cylchfannau wrth Gyffyrdd 15 a 16.

Ffordd Osgoi Porthmadog, Minffordd a Thremadog yr A487 - Clefyd Coed Ynn

Ffordd Osgoi Porthmadog, Minffordd a Thremadog yr A487 - Clefyd Coed Ynn

23/05/13
Caiff y gwaith ei gynnal a’i gwblhau yn ystod mis Mai er mwyn atal y clefyd rhag gallu lledaenu ymhellach
 

Yr A55 - Pont Britannia

02/03/11
Pont bresennol Britannia yw'r unig ran o lwybr E22 y Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd sy'n ffordd unffrwd. Mae tagfeydd hir wrth y bont pan fydd pobl yn teithio i'r gwaith neu'n teithio yn ystod y gwyliau.
 
Yr A494 Drome Corner i Ewlo

Yr A494 Drome Corner i Ewlo

04/12/10
Mae Gwelliant Drome Corner i Ewloe A494 wedi ei leoli yng nghyffiniau Queensferry, Sir y Fflint.