Skip to content

Gweithdai

Mae'r Pwyllgor yn cynnal gweithdai o amgylch Cymru i roi cyfle i bobl i drafod trafnidiaeth gyhoeddus integredig a rhannu eu storïau am y pwnc.

Bwriad y Pwyllgor yw darganfod pa mor berthnasol a phwysig yw trafnidiaeth integredig fel angen i deithwyr yng Nghymru, a hynny o ran y sefyllfa wirioneddol yn ogystal â’r canfyddiad ohoni. Mae’n dymuno nodi’r bylchau mewn trafnidiaeth integredig o gymharu â'r anghenion hynny, a deall a dangos yn well beth sy’n rhwystro proses integreiddio effeithiol. Mae hefyd am nodi’r arferion gorau o ran y dulliau trafnidiaeth a geir ledled y DU a thu hwnt, a bod mewn sefyllfa i argymell i'r Gweinidog ffyrdd o wella’r gwaith o integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru - a hynny o ran y sefyllfa wirioneddol ynghyd â chanfyddiad y cyhoedd ohoni.

Dyddiadau ar gyfer y gweithdai

  • 24 Ionawr 2013 4pm-6pm, Muni Arts Centre, Pontypridd, CF37 2DP