Masnach Deg
Dyma'r diffiniad a gydnabyddir yn rhyngwladol:
Mae Masnach Deg yn bartneriaeth fasnachu sy'n gweithredu ar sail deialog, tryloywder a pharch er mwyn ceisio sicrhau mwy o degwch wrth fasnachu ar lefel ryngwladol. Mae'n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwy gynnig gwell amodau masnachu ar gyfer cynhyrchwyr a gweithwyr sydd wedi'u gwthio i'r cyrion - yn enwedig yn hemisffer y De - a diogelu eu hawliau. Mae sefydliadau Masnach Deg (gyda chefnogaeth defnyddwyr) yn mynd ati'n weithgar i gefnogi cynhyrchwyr, codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu i newid rheolau ac arferion yn y byd masnachu rhyngwladol confensiynol.
Yn 2006, pennwyd nifer o dargedau er mwyn i Gymru allu cyrraedd ei hamcan o fod yn Wlad Masnach Deg. Cytunodd Fforymau Masnach Deg Cymru a'r Alban ar y meini prawf, a chawsant sêl bendith Prif Weinidogion Cymru a'r Alban.
Ym mis Mehefin 2008, cyhoeddodd panel annibynnol o Arbenigwyr Masnach Deg fod Cymru wedi llwyddo i ddod yn Wlad Masnach Deg.
