Skip to content

Cyfrifiad 2011

Cyfrifiad 2011

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2011 ar 27 Mawrth 2011.

Sut mae'r cyfrifiad yn gweithio?

Cafodd pob cartref yng Nghymru a Lloegr holiadur yr oedd yn rhaid ei lenwi (ar-lein neu ar bapur) a'i anfon yn ôl i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Dydd Sul 27 Mawrth 2011 oedd diwrnod y Cyfrifiad, a gofynnwyd i gartrefi roi gwybodaeth am bawb oedd yn aros yn y cyfeiriad ar noson y Cyfrifiad.

Pwysigrwydd y Cyfrifiad

Rydym ni i gyd yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar adegau gwahanol, gan gynnwys ysgolion, gwasanaethau iechyd, ffyrdd a llyfrgelloedd. Mae'r gwaith o gynllunio ac ariannu'r holl wasanaethau hyn (a mwy) ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar wybodaeth gywir o'r cyfrifiad gan ei bod yn helpu i nodi anghenion pobl yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ac yn galluogi sefydliadau i dargedu eu hadnoddau'n fwy effeithiol.

Canlyniadau Cyfrifiad 2011

Cyhoeddwyd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 16 Gorffennaf 2012.

Roedd y data a ryddhawyd ar gyfer awdurdodau lleol yn nol oedran a rhyw. Mae adroddiad ar gyfer Cymru ar gael ar wefan y SYG: Cyfrifiad 2011, Amcangyfrifon o Boblogaeth a Chartrefi Cymru (dolen allanol). Rhyddhawyd ail set o ganlyniadau ar 11 Rhagfyr 2012.