Skip to content

Nod Craidd 2: Addysg, hyfforddiant

Dolenni perthnasol

Caiff ei gyhoeddi ar 20 Tachwedd 2008
Plant yn astudio yn yr ysgol
Ffynonellau data sydd i'w cael ar blant a phobl ifanc i gefnogi'r gwaith o fonitro Nod Craidd 2.



Mae Nod Craidd 2 yn ceisio sicrhau bod bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysgol, hyfforddiant a dysgu, gan gynnwys meithrin sgiliau personol a chymdeithasol hanfodol. Mae amrywiaeth o ffynonellau data ar gael sy'n berthnasol i'r nod craidd hwn gan gynnwys data ar gyrhaeddiad addysgol a chymryd rhan.

Disgyblion sy'n Gadael Addysg Lawnamser heb gymwysterau

28/02/12
Data ar ddisgyblion sy'n gadael addysg lawnamser heb unrhyw gymwysterau.
 

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (CDGC)

28/02/12
Yn gofnod unigol o bob dysgwr sy'n cymryd rhan mewn dysgu ôl-16 drwy sefydliadau Addysg Bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddarparwyr Dysgu Cymunedol yr Awdurdodau Addysg Lleol.
 

Perfformiad arholiadau mewn ysgolion

28/02/12
Data yn flynyddol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion yng Nghyfnod Allweddol 4 a chymwysterau ôl-16.
 

Cyrhaeddiad plant sy'n derbyn gofal

28/02/12
Data am blant sy'n derbyn gofal a'u cyflawniadau yng Nghymru.
 

Absenoldeb mewn ysgolion

27/02/12
Absenoldeb disgyblion unigol yn flynyddol ar gyfer disgyblion sydd o oed ysgol gorfodol (hyd at 15 oed) o ysgolion cynradd a gynhelir, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig, yn ogystal ag ysgolion annibynnol.
 

Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig

27/02/12
Mae gwybodaeth am ddisgyblion sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig (AAA) yn cael ei chasglu fel rhan o'r arolwg STATS2 o Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau) a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion.
 

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion

27/02/12
Bob blwyddyn gan ysgolion meithrin, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a gynhelir yng Nghymru.
 

Asesiadau Athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol, Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3

27/02/12
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth yn flynyddol ar Asesiadau disgyblion gan Athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig a gynhelir.
 

Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA)

19/05/11
Mae’r Rhaglen er Asesiad Disgyblion Rhyngwladol (PISA) yn arolwg o gyrhaeddiad addysgol disgyblion 15 oed a drefnir gan Gorff Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar ran cynrychiolwyr y llywodraethau perthnasol gan y ...
 

Gwahardd o ysgolion

18/05/11
Data ar ddisgyblion sy'n cael eu gwahardd yn ystod pob tymor ysgol yng Nghymru o ysgolion cynradd a gynhelir, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru.
 

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur

18/05/11
Amcangyfrifon am gyfranogiad pobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed mewn addysg a'r farchnad lafur.
 

Arolwg Teithio Blynyddol

18/05/11
Arolwg personol ac ar gyfer aelwydydd yw'r Arolwg Teithio Cenedlaethol, a gynlluniwyd i ddarparu cronfa ddata o wybodaeth teithio personol ar gyfer Prydain Fawr. Cafodd yr arolwg ei gynllunio i nodi tueddiadau hirdymor, ac nid yw'n addas ar gyfer monitro tueddiadau tymor byr. O ganlyniad i ...
 

Hynt Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru

18/05/11
Arolwg blynyddol o gyrchfannau disgyblion rhwng 16 a 19 mlwydd oed sy'n gadael ysgol yw Cyrchfannau Disgyblion.
 

Cyllid myfyrwyr

17/05/11
Mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn dal data ar holl geisiadau a thaliadau Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae hyn yn cynnwys talu Grantiau Dysgu'r Cynulliad, grantiau ffioedd dysgu, benthyciadau cynhaliaeth a benthyciadau ffioedd dysgu i fyfyrwyr Addysg Uwch. Mae hefyd yn cynnwys Lwfansau Cynhal ...
 

Cyrhaeddiad pobl ifanc erbyn 19 oed

01/10/09
Mae'r ffynhonnell hon yn darparu amcangyfrifon o gyrhaeddiad pobl ifanc yng Nghymru erbyn eu bod yn 19 oed. Mae'n seiliedig ar gysylltu data ar gyrhaeddiad yn yr ysgol â chymwysterau galwedigaethol a gafwyd gan ddarparwyr eraill.
 

Cynhaliwyd Arolwg Llais y Dysgwr i Ysgolion

01/10/09
Cynhaliwyd Arolwg Llais y Dysgwr i Ysgolion fel rhan o Raglen Ymchwil i Gwsmeriaid 2007-2010 Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
 

Cafodd y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion Ôl-16 (CYBLD Ôl-16)

01/10/09
CYBLD Ôl-16 ei gyflwyno i ariannu dosbarthiadau chwech yng Nghymru drwy gyfrwng y System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol (NPFS).
 

Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (YIPOY)

01/10/09
Mae arolwg HBSC 2005-06, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2008, yn cynnwys data o 41 o wledydd a rhanbarthau yn Ewrop a Gogledd America. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar y cyd â thimau ymchwil o wledydd eraill sy'n cymryd rhan, yn cydweithio â Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ew ...