Skip to content

Disgyblion sydd â Datganiad o anghenion Addysgol, Ionawr 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar ddisgyblion â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 13 Mehefin 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar ddisgyblion â datganiad o AAA yn cynnwys data ar lefel awdurdod lleol a Chymru ym mis Ionawr 2012.

Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 15 Mehefin 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Bu gostyngiad o 3.0 y cant yn ystod 2011 yn y nifer o ddisgyblion â datganiad o AAA, gan ddod â'r nifer â datganiad i 13,591 ym mis Ionawr 2012.
  • Roedd 1,333 o ddisgyblion newydd eu hasesu â’r angen am ddatganiad yn ystod 2011, o’i gymharu â 1,264 yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 92 y cant (12,477 disgybl) o ddisgyblion â datganiad ym mis Ionawr 2012 yn cael eu haddysgu o fewn eu hawdurdod lleol yn hytrach nag mewn awdurdod arall.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: school.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2013 (dros dro i'w gadarnhau ar y tudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')