Skip to content

Cofrestriadau Myfyrwyr Addysg Uwch a Chymwysterau a Enillwyd mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU, 2010/11

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar ‘Gofrestriadau Myfyrwyr Addysg Uwch a Chymwysterau a Enillwyd mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2010/11’, a gynhyrchir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), ar 12 Ionawr 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Cofrestriadau

  • Cyfanswm y nifer o gofrestriadau Addysg Uwch (AU) mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yn y DU ar gyfer 2010/11 oedd 2,501,295, sy’n dangos dim newid canrannol ers 2009/10.
  • Roedd 131,005 o gofrestriadau AU mewn SAUau yng Nghymru, cynnydd o 2 y cant ers 2009/10.
  • Bu cynnydd o 4 y cant yn nifer y cofrestriadau llawn-amser a gostyngiad o 2 y cant yn nifer y cofrestriadau rhan-amser mewn SAUau yng Nghymru.
  • Roedd 40,605 o gofrestriadau blwyddyn gyntaf llawn-amser ar gyrsiau AU mewn SAUau yng Nghymru, cynnydd o 1 y cant o’i gymharu â 2009/10.

Cymwysterau a Enillwyd

  • Roedd 369,010 o raddedigion gradd gyntaf mewn SAUau yn y DU (cynnydd o 5 y cant ers 2009/10).
  • Roedd 20,780 o raddedigion gradd gyntaf mewn SAUau yng Nghymru (cynnydd o 8 y cant ers 2009/10). Enillodd 60 y cant ohonynt radd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Cyhoeddir cyfrol cyfeirio HESA ‘Myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch, 2010/11’ yng ngwanwyn 2012.
Cyhoeddir y Bwletin Ystadegol ‘Myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch – Cymru, 2010/11’ ym mis Chwefror 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')