Skip to content

Adeiladu Tai Newydd a Gwerthiant Tai Cymdeithasol, Hydref i Rhagfyr 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar adeiladu tai newydd a gwerthiant tai cymdeithasol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 16 Mawrth 2011 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd, a gwerthiant tai cymdeithasol yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod rhwng Hydref i Rhagfyr 2010.

Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 15 Rhagfyr 2010. Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC). Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth archwilwyr preifat cymeradwy.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

Stoc Annedd

  • Ar 31 Mawrth 2010, roedd 1.34 miliwn o anheddau yng Nghymru. Rhwng 1 Ebrill 2010 a 31 Rhagfyr 2010, cafodd 4,311 o anheddau ychwanegol eu hadeiladu, gyda 84 y cant o’r rhain yn anheddau sector preifat.
  • Rhwng 1 Ebrill 2010 a 31 Rhagfyr 2010, roedd cyfanswm o 288 o anheddau rhentu cymdeithasol wedi cael eu trosglwyddo i'r sector preifat drwy werthu 81 o anheddau awdurdod lleol a 207 o anheddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig drwy'r Hawl i Brynu a chynlluniau eraill.

Adeiladu Tai Newydd.

  • Mae'r nifer o anheddau newydd wedi'u dechrau a nifer a gwblhawyd, yn parhau i amrywio.  Ar y cyfan, mae'r nifer o anheddau newydd wedi bod yn cynyddu ers y pwynt isel yn y chwarter Hydref i Ragfyr 2008, ond mae ffigurau yn parhau i amrywio. Roedd y nifer o anheddau a chwblhawyd ar eu pwynt isaf ar gyfer y chwarter Hydref i Ragfyr, ers canol y 70au. Fodd bynnag, mae’r nifer a gwblhawyd ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, ar ei gorau ers mis Hydref i Rhagfyr 1998.

Gwerthiant Tai Cymdeithasol

  • Ar y cyfan, mae gwerthiant tai cymdeithasol wedi cynyddu ychydig ers dechrau 2009, er bod 113 o anheddau a werthwyd yn ystod chwarter Hydref i Rhagfyr 2010-11, yn cynrychioli cynnydd o 14 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Mae'r mwyafrif sy’n gwerthu (78 y cant) yn anheddau RSL.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

15 Mehefin 2011