Skip to content

Mynegai Prisiau Tai, Hydref 2010

Cyhoeddwyd y Mynegai Prisiau Tai diweddaraf, a gynhyrchir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ar 14 Rhagfyr 2010 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar Gyfartaledd Prisiau Tai a Chwyddiant Blynyddol Prisiau Tai yn cynnwys data ar gyfer y Deyrnas Unedig a Swyddfeydd Rhanbarthol y Llywodraeth hyd at fis Hydref 2010.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 17 Tachwedd 2010.

Cyfrifir y Mynegai Prisiau Tai (HPI) gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol fel cyfres fisol o newidiadau mewn prisiau tai ers mis Chwefror 2002 ar draws rhanbarthau gwahanol y DU (gan gynnwys Cymru).  Data arbrofol ydyw ac nid yw'n cael ei addasu'n dymhorol ar hyn o bryd - o’r herwydd, dylid ymdrin â chymariaethau fesul mis yn ofalus.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Hydref 2010, cynyddodd yr HPI yng Nghymru 9.1 y cant, o’i gymharu â chynnydd blynyddol o 8.8 y cant, hyd at fis Medi 2010.
  • Ar draws y DU cyfan, cynyddodd y mynegai prisiau tai 5.5 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Hydref 2010, o’i gymharu â chynnydd blynyddol o 6.1 y cant, hyd at fis Medi 2010.
  • O gymharu mis Hydref 2010 â mis Medi 2010 (heb ei addasu'n dymhorol), gwelwyd cynnydd yn y prisiau tai blynyddol yng Nghymru, ond gwelwyd cwymp ar gyfer ffigwr y DU fel cyfanwaith.
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yng Nghymru ym mis Hydref 2010 oedd £154,954, y pedwerydd ffigur isaf o blith rhanbarthau’r DU (dim ond yn uwch nag yng Ngogledd-orllewin Lloegr, Ngogledd-ddwyrain a Swydd Efrog a Hwmber ).
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yn Hydref 2010 y DU oedd £209,466, a’r ffigur ar gyfer y DU, heb gynnwys Llundain a De-ddwyrain Lloegr oedd £174,675.

Nodau:
*Mae prisiau tai wedi'u haddasu yn ôl yr amrywiaeth o eiddo yn cymryd i ystyriaeth yr amrywiaeth o eiddo a werthir yn ystod y cyfnod dan sylw ac felly nid yw prisiau amrywiol mathau penodol o eiddo mewn un cyfnod yn effeithio ar y prisiau o'u cymharu â chyfnod arall.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol: Mynegai Prisiau Tai, Hydref 2010.  

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')