Skip to content

Mynegai Prisiau Tai: Rhagfyr 2009

Cyhoeddwyd y Mynegai Prisiau Tai diweddaraf, a gynhyrchir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ar 16 Chwefror 2009 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar Gyfartaledd Prisiau Tai a Chwyddiant Blynyddol Prisiau Tai yn cynnwys data ar gyfer y Deyrnas Unedig a Swyddfeydd Rhanbarthol y Llywodraeth hyd at fis Rhagfyr 2009.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 13 Ionawr 2009.

Cyfrifir y Mynegai Prisiau Tai (HPI) gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol fel cyfres fisol o newidiadau mewn prisiau tai ers mis Chwefror 2002 ar draws rhanbarthau gwahanol y DU (gan gynnwys Cymru).  Data arbrofol ydyw ac nid yw'n cael ei addasu'n dymhorol ar hyn o bryd - o’r herwydd, dylid ymdrin â chymariaethau fesul mis yn ofalus.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2009, cynyddodd yr HPI yng Nghymru 1.0 y cant, o’i gymharu â lleihad blynyddol o 0.4 y can hyd at fis Tachwedd 2009.
  • Ar draws y DU cyfan, cynyddodd y mynegai prisiau tai 2.9 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2009, o’i gymharu â lleihad blynyddol o 0.5 y can hyd at fis Tachwedd 2009.
  • O gymharu mis Rhagfyr 2009 â mis Tachwedd 2009 (heb ei addasu'n dymhorol), gwelwyd cwymp yn y prisiau tai blynyddol yng Nghymru a gwelwyd cynnydd a’r draws y DU yn ei chyfanrwydd.
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2009 oedd £150,481, yr ail ffigur isaf o blith rhanbarthau’r DU (dim ond yn uwch nag yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr).
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yn y DU oedd £200,307, a’r ffigur ar gyfer y DU heb gynnwys Llundain a De-ddwyrain Lloegr oedd £169,208.

*Mae prisiau tai wedi'u haddasu yn ôl yr amrywiaeth o eiddo yn cymryd i ystyriaeth yr amrywiaeth o eiddo a werthir yn ystod y cyfnod dan sylw ac felly nid yw prisiau amrywiol mathau penodol o eiddo mewn un cyfnod yn effeithio ar y prisiau o'u cymharu â chyfnod arall.

Mae'r datganiad llawn ar gael ar wefan DCLG (Saesneg yn unig).

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5055
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2010 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')