Skip to content

Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG, Mai 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 28 Mehefin 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod rhwng Mai 2011 a Mai 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ar 31 Mai 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Treuliodd 88.8 y cant o gleifion llai na 4 awr mewn cyfleusterau Holl Ofal Brys Ysbyty rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 pwynt canran ers Ebrill 2012;
  • Treuliodd 97.0 y cant o gleifion llai nag 8 awr mewn cyfleusterau Holl Ofal Brys Ysbyty rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Mae hyn yn gynnydd o 0.4 pwynt canran ers Ebrill 2012; a
  • Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae perfformiad yn erbyn y targedau wedi tueddu i ostwng dros fisoedd y gaeaf ac wedyn codi tan ddiwedd misoedd yr haf.

Ffigurau dros dro yw’r holl ffigurau ar gyfer mis Mai 2012.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

26 Gorffennaf 2012