Skip to content

Gwasanaethau Ambiwlans, Rhagfyr 2011

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru ar 1 Chwefror yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r ystadegau am y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer Rhagfyr 2011. Mae’r datganiad diweddaraf, sydd wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu Fframwaith Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2011-12, yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 4 Ionawr.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • cafwyd bron 36,000 o alwadau brys, roedd mwy na 14,000 yn alwadau Categori A (lle mae bywyd yn y fantol);
  • cyrhaeddodd 64.8% (9,090) o'r ymatebion brys i alwadau oedd yn fygythiad uniongyrchol i fywyd (Categori A) o fewn 8 munud, ychydig yn is na'r targed Cymru-gyfan o 65%
  • roedd perfformiad ar lefel awdurdod undeol yn amrywio o 51.2% yn Rhondda Cynon Taf i 79.5% yng Nghonwy.

Bu newidiadau i'r gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru o 5 Rhagfyr 2011 i gydymffurfio â Safonau Perfformiad Ambiwlans Cenedlaethol a rhoi mwy o ffocws y gwasanaeth ambiwlans ar ganlyniadau clinigol gwell i gleifion. Mae manylion am y newidiadau i’w gweld yn y nodiadau yn y datganiad.

O ganlyniad i'r newidiadau hyn, dylai defnyddwyr nodi'r canlynol:

  • Ni fydd data cyn mis Rhagfyr 2011 yn gallu cael eu cymharu'n uniongyrchol â data ar gyfer mis hwn ac yn y dyfodol
  • Bydd cynydd o tua 4000 yng nghyfanswm nifer y galwadau brys ar gyfer mis Rhagfyr 2011 ymlaen;
  • bydd cynydd yn nifer y galwadau Categori A a Chategori C ar gyfer mis Rhagfyr 2011 ymlaen, a
  • Mae amrywiaeth o ran perfformiad yn erbyn y targedau a / neu alwadau y mis hwn yn rhannol o ganlyniad i'r newidiadau hyn.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

7 Mawrth 2012