Skip to content

Gwasanaethau Ambiwlans, Tachwedd 2011

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru ar 4 Ionawr yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau am y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer Tachwedd 2011. Mae’r datganiad diweddaraf, sydd wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu Fframwaith Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2011-12, yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 7 Rhagfyr.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • cafwyd ychydig dros i 29,000 o alwadau brys, i fyny 0.7% o’i gymharu â mis Tachwedd 2010; bron 8% yn uwch nag ym mis Tachwedd 2009, a ychydig yn mwy na 10% yn uwch nag ym mis Tachwedd 2008;
  • cyrhaeddodd 7,929 (70.0%) o'r ymatebion brys i alwadau oedd yn fygythiad uniongyrchol i fywyd (Categori A) o fewn 8 munud, yn uwch na tharged Cymru-gyfan o 65% am yr degfed mis yn olynol; ac
  • roedd perfformiad ar lefel awdurdod undeol yn amrywio o 57.2% yn Rhondda Cynon Taf i 81.3% yn Sir Ddinbych.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

1 Chwefror 2012