Skip to content

Amdano'r pwnc hwn

Dolenni perthnasol

Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Gweinidog Cyllid.

Ein rôl ni yw cynnig sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau, dyrannu adnoddau, ymchwil a chefnogi dadleuon o fewn llywodraeth ac yn y gymuned ehangach trwy ddarparu gwasanaethau ystadegol dibynadwy ac effeithlon.

I gael ein hadnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer gwybodaeth ystadegol (swyddogol) a daearyddol am Gymru. Ein nod yw cael ein hadnabod am:

  • ein rôl o gefnogi a chydlynu partneriaeth ystadegol ehangach;
  • ansawdd ein cyngor;
  • ansawdd ein data a pherthnasedd ac effaith ein dadansoddiad.

Dyma’r pedwar prif flaenoriaeth drawsbynciol sy’n sail i’r mwyafrif o’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni:

  • Deall anghenion ein defnyddwyr a datblygu cynllun cynaliadwy ar gyfer y dyfodol – i ymateb i ymgynghori â defnyddwyr, ac i gynnig ffyrdd o ddiwallu anghenion defnyddwyr wrth i adnoddau leihau.
  • Gweithio ar hyd ffiniau dadansoddi – gwireddu buddiannau’r dull integredig hwn yn gyfan gwbl ar gyfer ein defnyddwyr mewnol ac allanol.
  • Gwneud y gorau o dechnoleg a’r wybodaeth sydd ar gael – gwella’r ffordd mae ein defnyddwyr yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
  • Datblygu ein hallbynnau a chydymffurfio â Chod Ymarfer Ystadegau Swyddogol - adeiladu ar y gwelliannau yr ydym wedi ei gwneud i nifer o’n hallbynnau eisoes. Trwy ddefnyddio’r arferion da sydd wedi cael ei hadnabod, a’r canllawiau sydd ar gael, bydd pob maes pwnc yn edrych i weld sut y gellid gweithredu’r rhain i’n hallbynnau.