Skip to content

Safonau

Dolenni perthnasol

Mae'r datganiad hwn yn egluro'r prosesau i'w dilyn pan gaiff allbynnau ystadegol eu diwygio neu eu gohirio.

Mae ystadegau swyddogol yn cael eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol ar gyfer ansawdd a dibynadwyedd. Mae'r safonau hyn wedi cael eu pennu gan y corff annibynnol, Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig, yn ei God Ymarfer ar Ystadegau Swyddogol.

Ystadegau Swyddogol

Mae ein holl gynnyrch ystadegol yn cael eu diffinio'n ystadegau swyddogol gan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007. Maent yn cael eu cynhyrchu yn unol ag egwyddorion y Cod Ymarfer.

Ystadegau Cenedlaethol

Mae llawer o'n hystadegau swyddogol hefyd yn 'Ystadegau Cenedlaethol'. Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi ardystio bod y rhain yn cydymffurfio â'i God Ymarfer.

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol, yn gweithredu hyd braich wrth y llywodraeth fel adran anweinidogol. Mae'n uniongyrchol atebol i'r Senedd. Mae'n diffinio'r safonau rydym yn eu dilyn ar gyfer ein holl ystadegau, ac mae'n gyfrifol am hybu a diogelu:

  • y gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol sy'n gwasanaethu budd y cyhoedd
  • ansawdd a pha mor gynhwysfawr yw ystadegau swyddogol, gan sicrhau arfer da o ran ystadegau swyddogol.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU