Skip to content

Pam y mae ystadegau'n bwysig

Dolenni perthnasol

Golwg gyffredinol ar Gymru o'r ystadegau a gyhoeddir gennym.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn gosod dangosyddion iechyd, addysg ac agweddau eraill o fywyd ochr yn ochr â ffigurau ar gyfer gwledydd eraill.

Mae ystadegau’n hanfodol i drafodaethau democrataidd. Ym mhob papur newydd a agorwn neu unrhyw raglen newyddion a wyliwn, mae cyfeiriad at ddata o ryw fath. Mae’r ystadegau swyddogol a gynhyrchwn yn galluogi pawb i ddeall mwy am eu byd ac i wneud penderfyniadau mwy deallus.

Mewn sefydliad fel y llywodraeth, mae ystadegau yn ein helpu i wneud penderfyniadau da ac i gynllunio'n effeithiol:

  • Gall cael rhagor o wybodaeth ymlaen llaw am y boblogaeth ar ffurf ystadegau helpu awdurdodau lleol i sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer nifer y bobl dan sylw yn ddigonol.
  • Yn y gorffennol, defnyddiwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i sicrhau bod y cyllid oedd ar gael yn cael ei ddefnyddio yn y meysydd oedd fwyaf ei angen.
  • Gall ystadegau economaidd ein helpu i lunio polisïau ar gyfer pobl neu ardaloedd sydd fwyaf mewn angen.

Gall y cyhoedd weld sut mae’r gwasanaethau sydd wedi’u darparu ar eu cyfer yn perfformio:

  • Amserau Ymateb Ambiwlansys.
  • Cyfraddau ailgylchu.
  • Cyfraddau casglu'r dreth gyngor.

Mae busnesau'n defnyddio ystadegau i'w helpu i benderfynu a ydynt am fuddsoddi mewn staff ac offer newydd ai peidio.