Skip to content

Amdano'r pwnc hwn

Ein nod yw creu gwlad lle mae pob un ohonom yn cael manteisio ar gyfran deg o’r adnoddau a’r cyfleoedd sydd ar gael yn ein cymdeithas. Dyna pam rydym yn gweithio’n galed i gael gwared ar rwystrau cymdeithasol ac economaidd, a helpu pobl i fwynhau'r pethau sy’n bwysig iddynt.

Rydym yn awyddus i helpu pobl i fyw bywydau llawn mewn ffordd sy’n cyfrannu at les eu cymuned a Chymru gyfan.

Cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod ein gwasanaethau yn canolbwyntio ar y dinesydd, a’u bod yn effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian. Ein nod yw lleihau tlodi; sicrhau bod pobl yn cael byw mewn cymunedau diogel, bywiog, a chynhwysol yn y wlad neu yn y dref; a hefyd fod pobl yn cael teithio mewn modd diogel, dibynadwy a chynaliadwy.

Amcanion ac ymrwymiadau

  • Mynd i’r afael â thlodi
  • Cymunedau diogelach i bawb
  • Diwygio gwasanaethau cyhoeddus