Skip to content

Rheoliadau Adeiladu

Dolenni perthnasol

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â newidiadau i’r System Rheoli Adeiladu a’r diwygiadau i’r Ddogfen Gymeradwy sy’n cefnogi rheoliad 7. Bydd yn cau ar 21 Mehefin 2013.
Rydym am gael eich barn ar reoliadau arfaethedig fydd yn ei gwneud hi’n orfodol i osod systemau chwistrellu a systemau atal tân mewn tai newydd a thai wedi’u haddasu.
Y mesur hwn sy’n ein galluogi i wneud rheoliadau fel bod systemau chwistrellu yn orfodol ym mhob cartref newydd a phob adeilad sydd wedi’i droi’n gartref.
Diwydiant Adeiladu Cymru’n chwarae rhan allweddol wrth greu economi ffyniannus ac amgylchedd o ansawdd da.

Mae Rheoliadau Adeiladu yn pennu safonau dylunio ac adeiladu sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o adeiladau newydd a llawer o addasiadau i adeiladau presennol.

Cânt eu gwneud o dan bwerau a ddarperir yn Neddf Adeiladu 1984. Maent yn sicrhau iechyd a diogelwch pobl mewn adeiladau a gerllaw iddynt. Maent hefyd yn ymwneud ag: 

  • arbed ynni
  • hygyrchedd
  • defnydd o adeiladau

Yng Nghymru, ni sy’n gyfrifol erbyn hyn am y rhan fwyaf o swyddogaethau o dan y Ddeddf Adeiladu – yn cynnwys gwneud Rheoliadau Adeiladu yng Nghymru. Mae’r swyddogaethau sy’n dal yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u nodi yng Ngorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).

Mae’r dogfennau a’r canllawiau cyfredol i’w gweld ar ein tudalen Dogfennau Cymeradwy.

Rydym wedi cynnig ein newidiadau cyntaf i Reoliadau Adeiladu Cymru yn ein datganiad polisi ym mis Gorffennaf 2010. Bwriad y newidiadau hyn yw helpu i gyrraedd ein nod o sicrhau bod adeiladau newydd yn cyrraedd safon ddi-garbon.

Mae adeilad sydd bron yn ‘ddi-garbon’ yn adeilad sy’n defnyddio ychydig neu ddim carbon i’w wresogi neu ei oeri (defnydd yr adeilad o ynni) ac felly mae’r allyriadau carbon deuocsid (CO2) blynyddol, net yn isel neu’n ddim. Dim ond at faterion sy’n dod o dan y Rheoliadau Adeiladu y mae’r diffiniad hwn yn cyfeirio, nid at ddyfeisiau trydan neu nwy symudol yn yr adeilad (fel poptai, cyfrifiaduron a setiau teledu).

Rydym yn adolygu Atodlen 1 Rhan L o Reoliadau Adeiladu 2010. Mae hon yn ymwneud ag Arbed Tanwydd a Phŵer.

Mae’r gyfraith yn mynnu bod unrhyw un sy’n dymuno gwneud gwaith adeiladu sy’n dod o dan y Rheoliadau Adeiladu yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Mae dau fath o Wasanaeth Rheoli Adeiladu ar gael.

Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru

Mae Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (dolen allanol, Saesneg yn unig) yn sefydliad sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n helpu’r diwydiant adeiladu i wella perfformiad fel ei fod yn sicrhau gwell ansawdd a gwerth am arian i gleientiaid a defnyddwyr yng Nghymru.