Skip to content

Llywodraeth leol

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Llywodraeth leol

Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cymorth ariannol i Awdurdodau Lleol ac yn cydweithio’n agos â hwy i gynyddu eu gallu i ddarparu eu gwasanaethau.

Er mwyn hwyluso'r broses hon, mae Llywodraeth y Cynulliad a'r Awdurdodau Lleol yn cydweithio mewn Cyngor Partneriaeth statudol. Mae'r Cyngor hwn hefyd yn cynnwys aelodau o blith y Cynghorau Cymuned, Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, yr Awdurdodau Tân ac Awdurdodau'r Heddlu. Gyda'i gilydd, maent yn datblygu ac yn gweithredu polisïau sy'n ein cynorthwyo i lywodraethu Cymru mewn ffordd gydlynol.

Mae'r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gyfrifol am £4 biliwn o wariant cyhoeddus.

O'r dudalen hon, cewch wybodaeth fanwl am yr Awdurdodau Lleol a'u cyllid. Gallwch hefyd ddysgu am rôl y cynghorau tref a chymuned, am y cydweithio rhwng Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cynulliad Cymru; ac am ddemocratiaeth yng Nghymru.

Gwybodaeth ddiweddaraf

Y newyddion o'r ystafell newyddion ar-lein

Wrth i bobl ifanc ledled Cymru aros i glywed eu canlyniadau Safon Uwch, mae’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Carl Sargeant, am atgoffa prentisiaid gallynt gael eu heithrio rhag talu’r dreth gyngor.

Ymgynghoriad

Diwygio'r diffiniad o fyfyrwyr at ddibenion penderfynu ar eu hatebolrwydd am y dreth gyngor.
Mae'r papur ymgynghori hwn yn ymwneud â diwygio'r symiau y mae'n bosibl eu codi ar y dyledwr ar gamau penodol yn y broses o adennill dyledion ar gyfer y dreth gyngor ac ardrethi annomestig.

Dolenni perthnasol

Arolwg ystadegol o bob ardal awdurdod unedol.
Mae’r datganiad polisi hwn yn nodi’n disgwyliadau ni ynglŷn â’r awdurdodau lleol a’r gefnogaeth yr ydym yn anelu at ei rhoi iddynt wrth wneud y canlynol.
Mae'r Cytundebau Gwella wedi cymryd lle'r Cytundebau Polisi a'u dibenyw cadw'r ffocws ar welliannau i wasanaethau llywodraeth leol adefnyddio grant fel ysgogydd canolog i wneud y gwelliannau hynny.
Cafodd bandiau cyfredol y dreth gyngor yng Nghymru eu pennu gan Orchymyn Treth Gyngor (Bandiau Prisio a Rhestri) (Cymru) 2003, ac fe ddaethant i rym ar 1 Ebrill 2005.
Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw’n Ardrethi Busnes. Ardrethi eiddo yw’r rhain a delir ar eiddo annomestig.
Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi’r canllawiau statudol hyn sy’n cefnogi Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a Chraffu) 2009.