Skip to content

Cyllidebau cyfun

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau’r gwerth gorau am arian yn ein holl wasanaethau cyhoeddus.
Diben Byrddau Gwasanaethau Lleol (BGLlau) yw sicrhau budd i ddinasyddion, drwy annog mwy o gydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae gwella gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol bwysig i ddyfodol Cymru.
Pentwr o ddarnau punt ar bapur newydd

Rydym yn ymrwymedig i hwyluso cyllidebau cyfun fel prif gyfrwng wrth ddarparu gwell gwasanaethau sy'n canolbwyntio’n fwy ar y dinesydd.




Ceir isod gyfres o nodiadau cyngor ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol a sefydliadau llywodraeth leol sy'n dymuno rhoi partneriaethau ar waith o dan Adran 33 o Ddeddf Iechyd Cymru 2006 a hefyd 'Partneriaid Perthnasol' Gwasanaethau Plant ehangach o dan Adran 25 o Ddeddf Plant 2004.

Bydd canllaw, sef "Establishment - Management and Partnership Options for Team Joint Working", hefyd ar gael ar y dudalen hon yn nes ymlaen yn 2011 fel rhan o'r gyfres o ganllawiau ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Annibynnol i Deuluoedd (IFSS). Mae'r canllaw'n cael ei dreialu gan safleoedd arloesi IFSS yn ystod 2011 ar sail eu profiad gweithredol hyd yn hyn, gyda golwg ar gyhoeddi'n llawn yr holl opsiynau ar gyfer helpu timau lleol i weithio mewn partneriaeth.

Mae'r cymorth a'r cyngor canlynol ar gael hefyd:

  • Mae adrannau 7(1) a 7(6) o'r Rheoliadau Partneriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon cronfeydd cyfun gael eu harchwilio. I gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau ardystio, cysylltwch â Nick Davies, Swyddfa Archwilio Cymru, drwy ffonio 02920 320527.
  • Datblygwyd gwefan PrynwchiGymru gan Gwerth Cymru ac mae’n cynnwys adnodd cynhwysfawr yn ymwneud â chomisiynu ar gyfer gofal cymdeithasol yn ogystal â chyngor ac awgrymiadau ymarferol. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan PrynwchiGymru.
  • Mae gwefan Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) yn cynnwys ffynonellau cynhwysfawr ac astudiaethau achos ar gyfer sefydliadau sy'n datblygu trefniadau cyllidebau cyfun.

Mae'r canllawiau ar ffurf nodiadau cyngor fel a ganlyn:

Rhagarweiniad

09/01/11
Gwybodaeth gefndir am gyllidebau a gronnwyd.
 

Nodyn Cyngor 1 - Polisi, deddfwriaeth a defnyddio hyblygrwydd

08/01/11
Creu a rheoli trefniadau cronni.
 

Nodyn Cyngor 2 - Yr agweddau ymarferol ar ddatblygu partneriaethau

07/01/11
Esbonio partneriaethau.
 

Nodyn Cyngor 3 - Llywodraethu corfforaethol a chyfrifyddu mewn partneriaethau

06/01/11
Canllawiau i bartneriaethau ar gyfer trefniadau llywodraethu.
 

Nodyn Cyngor 4 - Trefniadau TAW ar gyfer cytundebau partneriaeth

05/01/11
Cyngor ar TAW mewn partneriaethau.
 

Nodyn Cyngor 5 - Materion yn ymwneud â'r gweithlu

04/01/11
Cynllunio a datblygu'r gweithlu
 

Nodyn Cyngor 6 - Codi tâl am wasanaethau dan gytundebau adran 33

03/01/11
Disgrifiad cryno o'r materion sy'n effeithio ar gasglu taliadau.
 

Nodyn Cyngor 7 - Cytundebau enghreifftiol

02/01/11
Enghreifftiau o fathau o gytundebau.
 

Nodyn Cyngor 8 – Cyllidebau Cyfun o dan Ddeddf Plant 2004

01/01/11
Enghreifftiau o fathau o gytundebau.