Skip to content

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)

Dolenni perthnasol

Mae’r Datganiad yn amlinellu sut y bydd arolygu, archwilio a rheoleiddio gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gallu cyfrannu tuag at ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddinasyddion.
logo AGIC
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn gyfrifol am adolygu ansawdd a diogelwch y gofal sy'n cael ei gomisiynu a'i ddarparu gan sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru.

Ei nod yw cefnogi ac annog gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau iechyd.

 

Mae AGIC yn gweithio'n agos â chyrff arolygu, rheoleiddio ac archwilio eraill yng Nghymru ac mae ganddi ddyletswydd statudol i gydweithio â'r Comisiwn Gofal Iechyd yn Lloegr er mwyn sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau trawsffiniol. Mae hefyd yn cydweithio â'r Comisiwn Gofal Iechyd wrth gynnal adolygiadau Cymru/Lloegr.  

 

Wrth fynd ati i adolygu, mae'n ofynnol i AGIC ystyried y canlynol o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003:

  • y gofal iechyd sydd ar gael, a’r mynediad ato;
  • ansawdd ac effeithlonrwydd y gofal iechyd;
  • trefniadau rheoli’r gofal iechyd a pha mor ddarbodus ac effeithlon yw’r ddarpariaeth; 
  • yr wybodaeth a roddir i’r cyhoedd ac i gleifion am ofal iechyd;  
  • yr angen i warchod a hyrwyddo hawliau a lles plant.

Ar 1 Ebrill 2006, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Awdurdod Goruchwylio Lleol i AGIC. Mae swyddogaethau goruchwylio statudol yr Awdurdod Goruchwylio Lleol ar gyfer bydwreigiaeth yng Nghymru yn cynnwys paratoi, penodi a datblygu goruchwylwyr bydwragedd.

Yn ogystal, o 1 Ebrill 2006 ymlaen gyda chytundeb y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae'n rhaid i gynghorwyr proffesiynol o AGIC fynd ati'n flynyddol i fonitro sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sy'n cynnig rhaglenni a gymeradwywyd gan y Cyngor.

Mae AGIC yn arwain y broses o weithredu agweddau gofal iechyd y 'Concordat rhwng y Cyrff sy'n Arolygu, Rheoleiddio ac Archwilio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru'. Mae'r Concordat yn gyson â nod Llywodraeth Cymru o wella'r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yng Nghymru.

Cliciwch ar y cysylltiadau canlynol i gael rhagor o wybodaeth: