Skip to content

Cael y gorau o arolygu a rheoleiddio

Dolenni perthnasol

Ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar hynt y gwaith o weithredu'r egwyddorion yn y Datganiad Polisi ar Arolygu, Archwilio a Rheoleiddio yng Nghymru.
Mae'n darparu ar gyfer gwasanaethau rheoleiddio i ddangos y rôl allweddol maent yn ei chwarae wrth gyflwyno amddiffyniad a ffyniant i ddinasyddion a busnes ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae’r Datganiad yn amlinellu sut y bydd arolygu, archwilio a rheoleiddio gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gallu cyfrannu tuag at ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddinasyddion.
Chwyddwydr a rhannau jig-so
Rydym yn gweithio i helpu i weithredu polisi ar arolygu a rheoleiddio. Rydym hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyrff adolygu allanol drwy'r Fforwm Penaethiaid Arolygiaethau a Fforwm Rheoleiddwyr cysylltiedig.

Mae'r cyrff arolygu allanol mawr yng Nghymru – Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru – wedi cyhoeddi datganiad yn dweud sut maent yn gweithio i roi'r polisi ar waith.

Mae'r holl gyrff hyn yn newid eu rhaglenni gwaith yn unol â'r polisi ac yn cydweithio i gydlynu rhaglenni ac edrych ar y cyd ar brofiad dinasyddion sy'n defnyddio gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gydag adrannau Whitehall, y Swyddfa Rheoleiddio Gwell Lleol, llywodraeth leol a rheoleiddwyr mawr (Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Swyddfa Masnachu Teg), a chyda busnesau a grwpiau buddiannau defnyddwyr i alinio polisïau ac arfer o ran rheoleiddio busnesau'n well. Mae hyn yn cynnwys gwella'n trefniadau mewn meysydd fel ffermio a rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol.