Skip to content

Y Trydydd Sector

Dolenni perthnasol

Busnes ag amcanion cymdeithasol yw menter gymdeithasol.
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y cwtogir ar y cynllun fetio a gwahardd, gan sicrhau ar yr un pryd fod grwpiau sy'n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn yn briodol.
Pobl yn glanhau traeth.

Rydym yn cydnabod bod y Trydydd Sector yn cyfrannu’n fawr at fywyd yng Nghymru.

Mae gan sefydliadau’r Trydydd Sector rywfaint o nodweddion pwysig yn gyffredin, sef eu bod:

  • yn gyrff annibynnol, anllywodraethol;
  • wedi’u sefydlu yn wirfoddol gan bobl sy’n dewis trefnu;
  • yn cael eu hysgogi gan werth a’r awydd i ddatblygu amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol, yn hytrach na gwneud elw;
  • wedi ymrwymo i ailfuddsoddi’r arian sydd dros ben i ddatblygu eu hamcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cyhoeddi dadansoddiad blynyddol o’r Trydydd Sector yng Nghymru (dolen allanol).

Ym mis Ionawr 2013, amcangyfrifwyd bod tua 33,000 o sefydliadau Trydydd Sector yng Nghymru, sy’n cynnwys tua 978,000 o wirfoddolwyr a 51,000 o staff cyflogedig. Yn ogystal â hynny, amcangyfrifir bod dros 600,000 o bobl yn gwirfoddoli’n anffurfiol yn eu cymunedau.