Skip to content

Gwasanaethau Tân ac Achub - Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella

Dolenni perthnasol

Rydym yn gofyn am eich sylwadau a’ch barn mewn perthynas â’r polisi arfaethedig.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r canllawiau statudol y gall Gweinidogion Cymru eu cyhoeddi ar gyfer Rhan 1 y Mesur o ran yr Awdurdodau Tân ac Achub.
Mae'r canllawiau yn y cylchlythyr hwn yn ymwneud â'r gwelliant o dan Ran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 sy'n gymwys yn benodol i Awdurdodau Tân ac Achub.
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys gwella o dan Rhan 1 o'r Mesur gan ei fod yn arbennig o berthnasol i Awdurdodau Tân ac Achub.

Pasiwyd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Ebrill 2009, fe'i cymeradwywyd gan y Cyfrin Gyngor ar 22 Mehefin 2009 a daeth i rym ar 1 Ebrill 2010.

Cyflwynwyd Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ar sail anstatudol ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub yn 2007-08. Mae'r Mesur yn datblygu'r syniadau sydd y tu ôl i'r Rhaglen drwy ehangu'r diffiniad o wella, gan ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdodau bennu eu hamcanion eu hunain ar gyfer gwella dan 7 pennawd eang iawn:

  • Sicrhau cynnydd o ran eu hamcanion strategol
  • Gwella ansawdd y gwasanaethau
  • Gwella'r gwasanaethau sydd ar gael
  • Sicrhau mwy o degwch drwy leihau anghydraddoldeb wrth geisio cael gafael ar wasanaethau, neu wrth elwa arnynt, neu wella lles cymdeithasol
  • Arfer y swyddogaethau mewn ffordd sy'n cyfrannu at y gwaith o gyflawni datblygu cynaliadwy
  • Gwneud y gwasanaethau a'r swyddogaethau yn fwy effeithlon
  • Arloesi a newid sy'n cyfrannu at unrhyw un o'r amcanion uchod.

Mae'n ofynnol i'r Awdurdodau Tân ac Achub ymgynghori ar eu hamcanion ar gyfer gwella a'u cyhoeddi bob blwyddyn, a chofnodi eu perfformiad o'i gymharu â'r rhain. Bydd y gwaith cofnodi'n cynnwys perfformiad o'i gymharu â dangosyddion a safonau statudol.

Mae'r Mesur hefyd yn rhoi pŵer cyffredinol i'r awdurdodau gydweithio i sicrhau gwelliant, yn symleiddio rôl rheoleiddio ac archwilio drwy gydweithredu rhwng y cyrff rheoleiddio ac yn rhoi pŵer cyffredinol i Weinidogion Cymru helpu'r awdurdodau sy'n cael anhawster cyn defnyddio pwerau ymyrryd.

Mae'r canllawiau statudol ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub wedi'u cyhoeddi dan Gylchlythyr W-FRSC(10)04.