Skip to content

Tân ac achub

Dolenni perthnasol

Mae’r Fframwaith yn pennu blaenoriaethau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru.
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad Llywodraeth Cymru a’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ar gyfer darparu gweithgareddau ymyrraeth Plant a Phobl Ifanc.
Mae'r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn cefnogi ffyrdd newydd o weithio fel y gellir darparu gwasanaethau yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Gall achosion o droeseddu neu danau gael effaith andwyol ar fywydau pobl Cymru ac ar y cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Dynion tân yn diffodd tân.

Atal tân ac ymateb i dân.

Ers i'r Gwasanaeth Tân ac Achub gael ei ddatganoli'n ffurfiol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Tân ac Achub, personél y gwasanaethau a'n partneriaid a'n rhanddeiliaid allweddol eraill wedi bod yn gweithio i sicrhau ein bod yn parhau i gael y gwasanaethau tân ac achub gorau posibl.

Rydym yn cydnabod bod darparu gwell gwasanaethau tân ac achub ar gyfer pobl Cymru yn dibynnu i raddau helaeth ar ymdrechion yr awdurdodau tân ac achub unigol i weithio gyda’u cymunedau lleol a chyda’i gilydd. Drwy gydweithio, gallwn leihau nifer y marwolaethau a'r anafiadau sy’n cael eu hachosi gan danau, a diogelu eiddo domestig a chyhoeddus yng Nghymru.

Mae gennym hefyd rôl bwysig i’w chwarae o safbwynt atal tân, ac o ran addysgu a chysylltu â chymunedau ledled Cymru. Mae diffoddwyr tân yn bobl uchel eu parch y gall ein pobl ifanc eu hefelychu, tra bo gorsafoedd tân, llawer ohonynt mewn lleoliadau canolog yn ein cymunedau, yn datblygu'n ganolbwynt pwysig ar gyfer gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â chyflawni'u rôl draddodiadol.

Bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn gweithio i ddarparu gwasanaethau a fydd yn ymateb i’r galw ac yn parhau i gynnig y safonau uchel yr ydym bellach yn eu disgwyl.