Tân ac achub
Rydym yn cydnabod bod darparu gwell gwasanaethau tân ac achub ar gyfer pobl Cymru yn dibynnu i raddau helaeth ar ymdrechion yr awdurdodau tân ac achub unigol i weithio gyda’u cymunedau lleol a chyda’i gilydd. Drwy gydweithio, gallwn leihau nifer y marwolaethau a'r anafiadau sy’n cael eu hachosi gan danau, a diogelu eiddo domestig a chyhoeddus yng Nghymru.
Mae gennym hefyd rôl bwysig i’w chwarae o safbwynt atal tân, ac o ran addysgu a chysylltu â chymunedau ledled Cymru. Mae diffoddwyr tân yn bobl uchel eu parch y gall ein pobl ifanc eu hefelychu, tra bo gorsafoedd tân, llawer ohonynt mewn lleoliadau canolog yn ein cymunedau, yn datblygu'n ganolbwynt pwysig ar gyfer gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â chyflawni'u rôl draddodiadol.
Bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn gweithio i ddarparu gwasanaethau a fydd yn ymateb i’r galw ac yn parhau i gynnig y safonau uchel yr ydym bellach yn eu disgwyl.
