Skip to content

Undebau credyd

Dolenni perthnasol

Llinell Gymorth 24 awr - Os oes gennych chi wybodaeth am fenthyciwr arian didrwydded, cysyllwch â ni ar 0300 123 3311.
Busnes ag amcanion cymdeithasol yw menter gymdeithasol.
Os ydych ar incwm isel efallai fod gennych hawl i'r Budd-dal Tai.
Logo Undebau Credyd

Cydweithfeydd ariannol yw undebau credyd – yr aelodau sy’n eu defnyddio sy'n berchen arnynt ac sy’n eu rheoli.

Maent yn cynnig ffordd gyfleus o gynilo a'r cyfle i gael benthyciadau cost isel ac ystod o fanteision eraill.

Ar hyn o bryd, mae 22 o undebau credyd yn darparu gwasanaethau i fwy na 55,000 o oedolion a chynilwyr ifanc ledled Cymru.

Mae aelodau undebau credyd yn cynilo mewn cronfa gyffredin. Gellir defnyddio'r gronfa hon wedyn i gynnig benthyciadau i aelodau'r undeb credyd gyda chyfraddau llog fforddiadwy. Gan mai mentrau cydweithredol yw undebau credyd, mae cynilion yr aelodau ac unrhyw log a enillir ar fenthyciadau yn aros yn y gymuned leol er mwyn i bobl leol elwa arnynt.

Mae llawer o undebau credyd bellach yn cynnig ystod o wasanaethau megis cardiau debyd rhagdalu, Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs), a chynhyrchion yswiriant. Mae rhai yn cynnig  cyfrifon banc sylfaenol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth yr undebau credyd yng Nghymru drwy ffonio 0800 4960865 neu e-bostio creditunions@wales.gsi.gov.uk. Trwy’r ddolen ar y bar llywio ar y chwith, gallwch ganfod manylion cyswllt eich undeb credyd lleol yng Nghymru. Neu cewch ddefnyddio gwefan findyourcreditunion (Safle allanol).