Skip to content

Fforwm Ymgynghorol Cenedlaethol ar Dai yng Nghymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Fforwm Ymgynghorol Cenedlaethol ar Dai yng Nghymru

Caiff y Fforwm Ymgynghorol Cenedlaethol ar Dai yng Nghymru ei gynnull gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'r Fforwm yn bodoli i rannu syniadau a gwybodaeth am:

  • ddatblygu, gweithredu a gwerthuso strategaeth dai genedlaethol yng Nghymru
  • materion tai nad ydynt yn rhan o'r strategaeth dai genedlaethol
  • yr agweddau ar bolisi cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Llywodraeth y Cynulliad sy'n ymwneud â thai.

Mae'r Fforwm yn cael ei gadeirio gan Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai. Mae'n cyfarfod bob chwe mis, yn adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd fel rheol.