Skip to content

Mesur Tai (Cymru) 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd Mesur Tai (Cymru) 2011 ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 22 Mawrth 2011 a'i gymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor ar 10 Mai 2011. Rydym wedi cyhoeddi dogfen sy'n esbonio effeithiau'r Mesur, ac mae'r Memorandwm Esboniadol hwnnw i'w weld isod.

Ynglŷn â'r mesur

Mae rhan un o'r Mesur yn galluogi awdurdodau tai lleol i wneud cais i atal yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig mewn ardaloedd lle mae pwysau oherwydd prinder tai, a hynny am hyd at bum mlynedd.  

Mae rhan dau yn rhoi rhagor o bwerau ymyrryd a gorfodi i Weinidogion Cymru mewn perthynas â rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r Mesur i'w weld ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Ewch i: Mesur Tai (Cymru) 2011: Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)

Manylion cyswllt: Y Gyfarwyddiaeth Dai 01685 729158.