Skip to content

Rheoleiddio Tai

Dolenni perthnasol

Mae’r papur yma’n nodi prif ddarganfyddiadau’r adroddiad ymarferoldeb ariannol ar y rhagolygon ariannol 30 mlynedd.
Mae pethau'n symud yn gyflym a chewch grynodeb yn y bwletin hwn o hynt y gwaith hyd yma.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r heriau sy’n ein hwynebu wrth inni geisio diwallu gofynion tai Cymru a’r blaenoriaethau a’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd.
Disgrifir yr egwyddorion, y broses reoleiddio a’i phrif nodweddion.

Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru, neu 'gymdeithasau tai' i ddefnyddio'r enw mwy cyffredin arnynt, yn cael eu rheoleiddio gan Weinidogion Cymru.

Rydym yn gweithio i:

  • ddiogelu buddiannau tenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau eraill, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;
  • sicrhau tai cymdeithasol o ansawdd da, a hynny o ran Safon Ansawdd Tai Cymru, gwasanaethau sy'n diwallu anghenion tenantiaid, ac o ran gwerth am arian a hyfywedd ariannol;
  • cynnal hyder cyllidwyr.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Rydym yn cofrestru ac yn rheoleiddio cymdeithasau tai annibynnol ym mhob cwr o Gymru. Rydym yn anelu at ddefnyddio adroddiadau cyhoeddus a, lle bo hynny'n briodol, at ymyrryd yn uniongyrchol er mwyn diogelu buddiannau tenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau eraill, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rydym yn helpu landordiaid i wella o ran llywodraethu, o ran rheolaeth ariannol ac o ran y gwasanaethau landlordiaid a ddarperir ganddynt. Yn ogystal, rydym yn helpu i sicrhau bod cymdeithasau tai yn gallu parhau i ddenu cyllid preifat ar gyfraddau cystadleuol er mwyn adeiladu a gwella tai fforddiadwy ar gyfer pobl sydd mewn angen o ran tai.

Sut yr ydym yn mynd ati

Yr hyn sy'n arwain ein gwaith yn hyn o beth yw'r Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi'u Cofrestru yng Nghymru. Mae'n hymrwymiad i roi lle canolog i denantiaid wrth reoleiddio yn rhan annatod o'r Fframwaith hwnnw. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a lawrlwytho copi o'r fframwaith rheoleiddiol isod. Byddwn yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol ynglŷn â newidiadau arfaethedig i bolisïau. Bydd ymgyngoriadau cyfredol a blaenorol ar gael ar y rhan o'r wefan hon sy'n ymdrin ag ymgyngoriadau.

Rydym yn cyhoeddi "Canlyniadau cyflawni" (safonau perfformiad) yr ydym yn disgwyl i landlordiaid eu bodloni. Mae'r manylion i'w gweld yn y Fframwaith Rheoleiddiol ac mae'r sector a Chartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cynrychioli cymdeithasau tai, wedi cytuno ar y canlyniadau hynny. Mae'r canlyniadau cyflawni yn fframwaith ar gyfer asesu perfformiad a gall cymdeithasau tai eu defnyddio i hunanasesu eu cryfderau a'r meysydd lle mae angen iddynt wella.

Mae'n gwaith yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru, gyda chymorth aelodau'r Panel Cynghori Tenantiaid.