Skip to content

Cynllun Grantiau Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cynllun Grantiau Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru

Diben y cynllun grant hwn yw cryfhau’r gwaith sy’n cael ei gyflawni yng Nghymru i wella iechyd a lles.

Y cynllun

Cynigir y grantiau i fudiadau gwirfoddol cenedlaethol sy’n gallu cyfrannu at y gwaith o hybu iechyd ac sy’n gallu cydategu polisïau a blaenoriaethau cenedlaethol.

Mae cylchoedd ariannu yn gwahodd ceisiadau sy'n ymateb i Her Iechyd Cymru trwy:

  • ddatblygu’r Rhwydwaith Sefydliadau Anllywodraethol i godi proffil a chyfraniad y Sector Gwirfoddol o ran gwella lles yng Nghymru (trwy feithrin gallu a thrwy weithredu polisïau LlCC);
  • sicrhau gwelliant cynaliadwy yn iechyd y cyhoedd o fewn yr amgylchedd naturiol er mwyn helpu i leihau gordewdra yng Nghymru; a
  • rhoi cyfleoedd i grwpiau difreintiedig/pobl ag anghenion arbennig newid eu hymddygiad am y tymor hir er mwyn gwella’u lles. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i geisiadau sy’n canolbwyntio ar y ffactorau sosio-economaidd a diwylliannol sy’n effeithio ar iechyd; bwyta’n iach, bwyd a ffitrwydd; ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd; plant a phobl ifanc ag afiechydon hirdymor cyfyngol neu broblemau iechyd meddwl.

Prif nodweddion iechyd Her Iechyd Cymru yw:

  • ysmygu;
  • gordewdra;
  • damweiniau ac anafiadau;
  • alcohol a chamddefnyddio sylweddau eraill;
  • heintiau (heintiau a drosglwyddir yn rhywiol; a gafwyd trwy ofal iechyd; y gellir eu rhwystro trwy frechlyn; pydru deintyddol); ac 
  • iechyd a lles meddyliol.

Ceisiadau

Mae arian ar gael ar gyfer y cynllun hwn tan 31 Mawrth 2008 ond nid yw’n agored i geisiadau newydd. Bydd y cylch ariannu newydd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2008.

Cyswllt

Michelle Lessard
Ffôn: (029) 2082 6720
Ebost: HPVSGS@wales.gsi.gov.uk

Is-adran Llywodraeth Cynulliad Cymru

Yr Is-adran Gwella Iechyd

Dolenni perthnasol

Dowch i wybod mwy am beth sy'n cael ei wneud i wneud Cymru yn wlad iachach.