Skip to content

Sipsiwn-Teithwyr

Dolenni perthnasol

Yn amlinellu cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru a'n partneriaid mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr.
Y Canllawiau Arferion Da ynghylch Sipsiwn a Theithwyr yn helpu Awdurdodau Lleol wrth iddynt ystyried datblygu safleoedd newydd ac ailwampio safleoedd presennol.
Comisiynwyd yr ymchwil hwn i edrych ar bwysigrwydd llety i holl wasanaethau Sipsiwn-Teithwyr.
Amcan cyffredinol y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol, yr heddlu ac eraill i ddelio â gwersylla diawdurdod er mwyn lleihau'r chwalfa y mae hynny’n gallu ei achosi.

Sipsiwn-Teithwyr yw un o'r grwpiau sy'n cael eu difreinio fwyaf yn ein cymdeithas. Rydym yn gweithio tuag at fynd i'r afael â hyn i sicrhau bod yr un cyfleoedd ar gael i Sipsiwn-Teithwyr ledled Cymru.

Ein nod

Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu fframwaith polisi ar gyfer darparu gwasanaethau i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.  Ein nod yw sicrhau bod anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu hasesu, eu cynllunio a'u rhoi ar waith mewn dull mwy strategol. 

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau a chefnogaeth i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru gyda chanlyniadau tecach.  Bydd y dull hwn yn cydnabod y gwahaniaethau diwylliannol a'r materion sy'n aml wedi arwain at weld y grŵp hwn yn cael ei eithrio'n gymdeithasol, gan gydnabod y tensiynau sy'n bodoli'n aml rhwng Sipsiwn a Theithwyr a'r gymuned sefydlog, a cheisio mynd i'r afael â'r problemau hyn drwy hybu ymatebion i wasanaethau mewn dull cynhwysol.

Cyfarwyddyd

Fel y gallwn drefnu i safle'r rhwydwaith presennol gael ei ddiweddaru i safon fyw addas, rydym wedi drafftio Cyfarwyddyd Dylunio Safle a Chyfarwyddyd Rheoli Safle y gellir eu defnyddio gyda safleoedd newydd a rhai sydd eisoes yn bod.