Skip to content

Canllawiau




Dyma ystod o canllawiau

Dewch nol yn aml i gadw'n ymwybodol on cyfarwyddyd diweddaraf.

Y Frech Goch: Datganiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Fferyllol a Phrif Weithredwr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

13/05/13
Nodyn i atgoffa gweithwyr fferyllol o’u cyfrifoldebau yn ystod yr achosion presennol o’r frech goch.
 

Cydsyniad ym maes gofal iechyd - gwybodaeth ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru.

22/04/13
Mae'r daflen hon yn sôn am eu gofal iechyd nhw a'u hawl i gael eu cynnwys mewn penderfyniadau ynglŷn â'u hiechyd, eu gofal iechyd neu eu triniaeth.
 

Canllawiau ar gyfer y GIG yng Nghymru ynglŷn â chyrff cyfrifol

05/04/13
Mae’r canllawiau hyn yn nodi pwy sy’n gyfrifol am ariannu triniaeth a gofal unigolion o fewn y GIG yng Nghymru.
 

Trawsffiniol protocol

28/03/13
Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r trefniadau rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr i helpu cleifion sy’n byw ar y ffin rhwng Cymru/Lloegr.
 

Data ar farwolaethau mewn ysbytai

21/03/13
Fel rhan o’u hymrwymiad i wneud gwybodaeth am y GIG yn fwy tryloyw, mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn darparu data am lefel y marwolaethau mewn ysbytai ar eu gwefannau.
 

Fframwaith trefn lywodraethol genedlaethol i alluogi gofal o safon uchel yn GIG Cymru

18/02/13
Mae'r ddogfen fer hon yn gosod allan yr hyn mae'n ei olygu i bawb sydd yn gweithio i'r GIG neu o fewn y GIG yng Nghymru.
 

Canllaw dros dro ar dimau iechyd meddwl cymunedol

14/02/13
Mae canllaw polisi dros dro ar Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) wedi ei ddarparu ar gyfer y Byrddau Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol yng Nghymru.
 

Gofynion llywodraethu clinigol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru

29/01/13
Mae’r ddogfen yn egluro’r newidiadau i fframwaith contractiol y Fferylliaeth Gymunedol.
 

Lleihau nifer y meddyginiaethau gwastraff

16/01/13
Cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol ar sut i gefnogi cleifion i gael y gorau o'u meddyginiaethau, ac yn helpu i leihau gwastraff.
 

Mwy na geiriau...

03/12/12
Mae 'Mwy na geiriau' wedi cael ei ddatblygu i gryfhau gwasanaethau Cymraeg ymhlith rheng flaen iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
 

Adnodd hyfforddiant Mesur Iechyd Meddwl (Cymru): Rhagoriaeth mewn cynllunio gofal a thriniaeth

22/10/12
Nod yr adnoddau hyfforddiant hyn yw helpu unrhyw un i wella eu dealltwriaeth o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
 

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 – Taflen crynodeb cyhoeddus

17/10/12
Mae’r daflen hon yn rhoi crynodeb cryno ac esboniad byr o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
 

Canllawiau Cymru gyfan ar bresgripisynu ar gyfer anhawster codiad

09/10/12
Mae’r canllawiau hyn yn disodli Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC (99) 148.
 

Mesur Iechyd meddwl (Cymru) 2010: Model Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol

28/09/12
Mae Rhan I Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn rhoi dyletswyddau i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol.
 

Cwrdd aelodau'r Comisiwn

21/09/12
Mae hanes byr o arbenigedd comisiwn aelodau proffesiynol.
 

Cynllun Grant Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru yn 2013-2014 a 2014 -15

17/09/12
Nod y Cynllun yw atgyfnerthu’r gwaith o wella iechyd yng Nghymru mewn modd cynaliadwy trwy gefnogi prosiectau a ddatblygir ac a gyflwynir gan sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol.
 

Dynol rheoliadau meddyginiaethau 2012

12/09/12
Newidiadau i gyfraith y Deyrnas Unedig ynghylch cynhyrchion meddyginiaethol i’w defnyddio gan bobl.
 

Cynllun Gofal a Thriniaeth

01/06/12
Mae'r cynllun gofal a thriniaeth hwn wedi'i baratoi o dan adran 18 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
 

Ymrwymiad i’r Pwrpas: Dileu heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd (HGGI) y gellir eu hatal

14/05/12
Fframwaith o gamau gweithredu i gyrff gofal iechyd yng Nghymru
 

Amlygu'r effeithiau niweidiol o Clozapine

24/04/12
Amlygu'r effeithiau niweidiol o Clozapine.
 

Therapïau Seicolegol yng Nghymru – Canllawiau Gweithredu Polisi

03/04/12
Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol ar wella mynediad i wasanaethau seicolegol.
 

Adrannau 135 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

02/04/12
Mae’r Canllawiau hyn yn ategu Pennod 7 o God Ymarfer Cymru ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
 

Canllawiau Gweithredu Polisi Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar y ‘Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol’ a’r ‘Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd’

22/03/12
Canllawiau i helpu Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Mesur.
 

Safonau maeth ac arlwyo Cymru gyfan ar gyfer bwyd a hylif i gleifion preswyl mewn ysbytai

05/03/12
Yn sgil ymgynghori mae safonau diwygiedig wedi’u datblygu i’w defnyddio mewn ysbytai yng Nghymru.
 

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Canllawiau

28/02/12
Canllawiau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol ar Sefydlu Cynlluniau ar y Cyd ar gyfer Darparu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol
 

Gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau yng Nghymru

01/02/12
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo gwaharddiad ar werthu tybaco o beiriannau yng Nghymru. Daw’r gwaharddiad i rym ar 1 Chwefror 2012.
 

Cefnogaeth GIG Cymru i fenywod â mewnblaniadau bron Poly Implant Prothèse (PIP)

30/01/12
Advice for patients, clinical professionals and NHS managers on proposed arrangements to assess / care for women with PIP implants.
 

Hybu Iechyd mewn Lleoliadau Cyn-ysgol

24/01/12
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru i gynnwys lleoliadau cyn-ysgol.
 

Safonau Cenedlaethol ar gyfer Plant 0 i 15 oed â Chanser

20/01/12
Datblygwyd y safonau i roi sylfaen i’r GIG yng Nghymru gynllunio a darparu gwasanaethau canser effeithiol ac o safon uchel i blant.
 

Canllawiau a chynllun gofal Cymru gyfan ar ymataliaeth i blant a phobl ifanc

18/01/12
Datblygwyd canllawiau er mwyn gwella’r ddarpariaeth o ofal ymataliaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael problemau rheoli’r bledren neu’r coluddyn.
 

Polisi Gofal Ymataliaeth Cymru Gyfan ar gyfer Plant sy’n cael problemau rheoli’r Bledren neu’r Coluddyn

18/01/12
Bydd yn galluogi Byrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau o ansawdd uchel i Blant a Phobl Ifanc.
 

Llwybr gofal i garcharorion hŷn yng Nghymru

10/01/12
Canllawiau ar sut rydym yn bwriadu ymdrin â charcharorion hŷn.
 

Cyflawni’r Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol yng Nghymru

23/12/11
Canllaw i Ddarparwyr Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol a Chynllunwyr Gwasanaeth Eiriolaeth Bwrdd Iechyd Lleol.
 

Gweithredu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

22/12/11
Canllawiau wedi’u diweddaru i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol
 

Presgripsiwn llyfrau Cymru - taflen gwybodaeth i’r cyhoedd

30/11/11
Taflen wybodaeth yn rhoi manylion am sut y mae’r cynllun yn gweithio.
 

Canllawiau ar nawdd mewn ysgolion

24/10/11
Mae'r canllawiau hyn yn darparu fframwaith i ysgolion er mwyn eu helpu i benderfynu a ddylent dderbyn nawdd masnachol neu beidio.
 
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion: Nerth Mewn Partneriaeth 2

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion: Nerth Mewn Partneriaeth 2

23/09/11
Canllaw ynghylch sut mae cynnwys defnyddwyr y gwasanaethau a gofalwyr yn rhan o'r gwasanaethau iechyd meddwl.
 

Gweithredu rheoliadau ffioedd ysbyty ymwelwyr tramor

22/07/11
Canllawiau i bobl nad ydynt yn breswylwyr yn y DU sydd angen triniaeth gan Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru.
 

Fframwaith arfer da ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu ac y mae angen gofal eilaidd wedi'i gynllunio arnynt

05/07/11
Nod y canllaw hwn yw diffinio arfer gorau a gwella canlyniadau iechyd i bobl ag anabledd dysgu sy’n aros yn yr ysbyty.
 

Gwneud penderfyniadau

29/06/11
Detholiad o ganllawiau i’ch helpu i ddeall Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
 

Hyrwyddwyr Cyn-filwyr a'r Lluoedd Arfog

29/06/11
Bydd yr hyrwyddwyr yn darparu cefnogaeth i gyn-filwyr a phersonél y gwasanaethau er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu yn y cynlluniau gwasanaethau lleol.
 

Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a chaniatâd ar gyfer ymchwil

28/06/11
Rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylid ei wneud pan fo person wedi rhoi caniatâd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ond y mae wedi colli galluedd ers hynny.
 

Darparwr gwasanaeth eirioli annibynnol o ran galluedd meddyliol

17/06/11
Dewch i wybod lle mae eich darparwr lleol.
 
Taflen ffeithiau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)

Taflen ffeithiau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)

10/06/11
Mae cynlluniau ar y gweill i weithredu nifer o newidiadau pwysig ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl.
 

Chwalu'r rhwystrau

08/06/11
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun gweithredu cendlaethol i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant.
 

Cymeradwyo Clinigwyr Cymeradwy yng Nghymru

01/06/11
Canllawiau ynghylch cymeradwyo clinigwyr sy'n gweithredu fel gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl at ddibenion Deddf Iechyd Meddwl 1983.
 

Ymgysylltu ac ymgynghori

31/03/11
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys canllaw i'r BILLau a'r Ymddiriedolaethau ar ymgysylltu ac ymgynghori â dinasyddion ynghylch newidiadau i'r Gwasanaethau iechyd.
 

Canllaw ar Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2011/12 – 2013/4

31/03/11
Canllaw yw hwn i helpu Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i baratoi eu Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles blynyddol.
 

Hanfodion Gofal

29/03/11
Gwella ansawdd agweddau sylfaenol ar iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion
 

Gofal Iechyd Parhaus y GIG ar gyfer Oedolion yng Nghymru

28/03/11
Cewch wybod a ydych yn gymwys i dderbyn gofal iechyd parhaus y GIG.
 
Poster - Gofynnwch gyntaf

Poster- Gofynnwch Gyntaf

15/03/11
Mae'r ymgyrch ‘Gofynnwch Gyntaf i helpu i atal strôc wedyn’ wedi'i datblygu i godi ymwybyddiaeth bod pwysedd gwaed uchel a ffibriliad atrïaidd (pan fydd y galon yn curo'n afreolaidd) yn ffactorau risg difrifol sy'n gallu achosi strôc.
 

Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia

04/03/11
Mae'r ddogfen hon, a lansiwyd ar 16 Chwefror 2011, yn tynnu sylw at y cymorth a'r cyngor sydd ar gael ar gyfer unrhyw un sy'n cael diagnosis bod dementia arnynt.
 

Safonau anaesthesia a llawfeddygaeth i Gymru gyfan

23/12/10
Mae hon yn un o gyfres o safonau ar gyfer gwasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc.
 

Sut i ddefnyddio eich cymorth clywed

01/12/10
Arweiniad manwl ar wneud y defnydd gorau o’ch teclyn cymorth clyw.
 

Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes

30/09/10
Diffinio safonau sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth ar gyfer cynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau er mwyn ymdrin â diabetes.
 

Llythyr i Aelodau y Cynulliad - Gwasanaethau Demensia

16/08/10
Ar Orffennaf 12fed 2010 cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai'n cymryd camau i wella gwasanaethau demensia. Rhoddodd gyllid newydd i gefnogi gweithredu Cynlluniau Gweithredu ar gyfer Demensia.
 

Cyflawni'r Dull Rhaglen Ofal yng Nghymru: Canllawiau Interim ar gyfer Rhoi'r Polisi ar Waith

03/08/10
Mae'r Dull Rhaglen Ofal yn darparu'r dulliau i helpu defnyddwyr y gwasanaeth i allu byw eu bywydau i'r eithaf a hynny mor annibynnol â phosibl.
 

Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Ysbrydol yn y GIG yng Nghymru 2010

25/05/10
Ers amser hir, mae caplaniaid ysbytai wedi bod yn rhan allweddol o'r gwaith o ddarparu gwasanaeth gofal ysbrydol i gleifion, eu teuluoedd a gofalwyr a staff.
 

Safonau Ansawdd ar gyfer Clywedeg Pediatrig (Cymru)

21/04/10
Lansiwyd Safonau Ansawdd ar gyfer Clywedeg Pediatrig (Cymru) ar Fawrth 24ain 2010
 

Ceisiadau i neilltuo Organau sy’n perthyn i roddwr organau sydd wedi marw

30/03/10
Mae’r canllaw ar gyfer y GIG yn rhoi cyngor ynglŷn â’r amgylchiadau prin pryd y gellid ystyried cais i neilltuo organau sy’n perthyn i roddwr organau sy’n farw a’u rhoi I berthynas agos neu gyfaill.
 
Ein Dyfodol Iach - Papur gwaith technegol

Ein Dyfodol Iach - Papur gwaith technegol

09/12/09
Mae’r ddogfen hon yn agenda ar gyfer iechyd y cyhoedd am gyfnod i ddod.
 

Darparu ar gyfer anghenion pobl gyda HIV/AIDS yng Nghymru: Llwybrau Gofal Cenedlaethol a Manyleb Gwasanaeth ar gyfer profi, diagnosis, triniaeth a gofal cefnogol

27/08/09
Mae'r fanyleb gwasanaeth yn dogfennu'r modelau gofal sy'n cael eu hargymell ar gyfer cleifion gyda HIV neu AIDS.
 

Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru ar gyfer Clefyd y Galon

06/07/09
Rhoi sylfaen ar gyfer cynllunio a datblygu gwasanaethau ar gyfer atal a thrin clefyd y galon.
 

Anhwylderau Bwyta: Fframwaith ar gyfer Cymru

03/07/09
Cynhaliwyd proses ymgynghori ar y fframwaith yn gynharach eleni a bellach mae’r ddogfen derfynol ‘Anhwylderau Bwyta: Fframwaith ar gyfer Cymru’ wedi’i chyhoeddi.
 
Dogfen drafod: Cyflwyno system o ddewis peidio â rhoi (caniatâd tybiedig) yng nghyd-destun Trawsblannu Organau

Dogfen drafod: Cyflwyno system o ddewis peidio â rhoi (caniatâd tybiedig) yng nghyd-destun Trawsblannu Organau

20/10/08
I wybod mwy am roi organau a chaniatâd tybiedig gallwch lawrlwytho'r ddogfen drafod.
 

Cynllunwyd ar gyfer Trin Oedolion efo Y Clefyd Melys yng Nghymru: Canllawiau Gydsyniol

15/10/08
Mae'r Grwp Consenws Cymru Gyfan wedi bod yn gyfrifol am y datbylgiad o'r Canllawiau hyn, sydd wedi cynllunio i rhoi cymorth ac i wella gofal diabetes yng Nghymru.
 
Ffliw Pandemig: Canllawiau ar gyfer paratoi ysbytai yng Nghymru

Ffliw Pandemig: Canllawiau ar gyfer paratoi ysbytai yng Nghymru

08/04/08
Diben y ddogfen gynllunio hon yw helpu ymddiriedolaethau acíwt y GIG yng Nghymru (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel ymddiriedolaethau), yn rhinwedd eu rôl fel rheolwyr ysbytai aciwt, i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer ymateb i bandemig.
 
Alcoffeithiau - Canllaw i yfed yn synhwyrol

Alcoffeithiau - Canllaw i yfed yn synhwyrol

06/09/07
Beth sydd angen i chi ei wybod am alcohol ac sut mae ei yfed yn synhwyrol.
 

Nerth Mewn Partneriaeth

01/10/04
Nod y canllawiau hyn yw rhoi cyngor a gwybodaeth ynglyˆn â sut i gynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a’u gofalwyr yn effeithiol yn y broses o ddylunio, cynllunio, cyflawni a gwerthuso’r gwasanaethau hynny.