Ffliw moch
Gallwch hefyd ddarllen yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r sefyllfa yng Nghymru ar y tudalennau hyn, yn cynnwys diweddariadau wythnosol.
Mae mwyafrif yr achosion o ffliw moch yng Nghymru wedi bod yn ysgafn er bod nifer fach iawn o bobl wedi bod yn ddifrifol dost o’i herwydd.
Mae ail don y pandemig ffliw moch yng Nghymru bellach ar ben, gyda’r dystiolaeth yn dangos cylchrediad cyfyngedig yn unig, mewn rhai rhannau o’r wlad. Daeth ein rhaglen brechu plant iach rhwng 6 mis a 5 oed i ben ddiwedd mis Mawrth.
Fodd bynnag, mae’r brechlyn ar gael o hyd i’r rheini sydd yn y grwpiau risg uchel (gan gynnwys menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen) a theithwyr i hemisffer y de.
Brechu grwpiau o bobl agored i niwed yw’r arf mwyaf effeithiol sydd gennym i atal ffliw moch nawr neu os daw yn ôl yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Rydym yn annog pobl y nodir eu bod mewn perygl o ddal ffliw moch i dderbyn y cynnig i gael brechiad.
Caewyd llinell wybodaeth ffliw moch y DU ar 31 Mawrth. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ffliw moch gallwch gysylltu â’ch Meddyg Teulu neu fynd i wefan Galw Iechyd Cymru (dolen allanol) neu’i ffonio ar 0845 46 47.
