Ein Dyfodol Iach
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gweithio i ddatblygu Ein Dyfodol Iach, Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru.
Bydd yn gosod y cyd-destun cyffredinol a’r cyfeiriad ar gyfer gweithredu er mwyn diogelu a gwella iechyd yng Nghymru, gan ddarparu llwyfan strategol ar gyfer datblygu yn y dyfodol.
Er bod iechyd yng Nghymru wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw'r gwelliant hwn yn ddigon cyflym ac mae Cymru yn dal i fod ar ôl y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Hefyd, mae yna wahaniaethau annerbyniol mewn iechyd o fewn a rhwng ein cymunedau - ac mae’r bwlch iechyd yn tyfu.
Mae Ein Dyfodol Iach yn anelu at gyflawni’r canlynol:
- Gwella ansawdd a hyd bywyd
- Canlyniadau tecach i bawb.
Yma, gallwch ddarllen am ddatblygiad Ein Dyfodol Iach a’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni.
