Skip to content

Prif Swyddog Meddygol Cymru

Dolenni perthnasol

Heddiw, cyhoeddodd Dr Tony Jewell y bydd yn ymddeol y haf nesaf ar ôl chwe blynedd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio gwrthfiotigau mewn modd cyfrifol.
Prif ganfyddiadau’r Adroddiad Blynyddol yw bod iechyd y bobl yn dal i wella.
Diogelu Cymru rhag salwch a bygythiadau i iechyd y cyhoedd.
Canllawiau newydd ar weithgarwch corfforol i fod yn iach, i bedair gwlad Prydain. Prif Swyddogion Meddygol.
Y Llyfrgell Hybu Iechyd yw’r unig lyfrgell genedlaethol yng Nghymru lle gallwch gael gwybodaeth am iechyd y cyhoedd a hybu iechyd.
Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol

Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau Iechyd 

Dr Tony Jewell (y Prif Swyddog Meddygol) fydd Cyfarwyddwr Adran Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau Iechyd.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol (CMO) yn rhoi arweiniad a chyngor proffesiynol annibynnol i'r Prif Weinidog ac i weinidogion eraill Llywodraeth Cymru, ac i swyddogion Llywodraeth Cymru am faterion iechyd a gofal iechyd.

Mae'r CMO:

  • Yn arwain rhaglenni a pholisïau iechyd cyhoeddus, gan weithio ar draws holl adrannau polisi'r Llywodraeth Cymru a chydag amrywiaeth mawr o bartneriaid allanol, gyda'r nod o wella iechyd a lleihau'r anghydraddoldebau iechyd;
  • Yn arwain y cyfraniad clinigol yng Nghymru tuag at wella ansawdd gofal iechyd a'r canlyniadau i gleifion;
  • Yn arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru, gyda rolau allweddol mewn rheoleiddio meddygol, addysg a hyfforddiant, safonau a pherfformiad;
  • Yn cynnal y cysylltiadau priodol yn y DU ac yn rhyngwladol, gan weithio gyda sefydliadau, adrannau llywodraeth a Phrif Swyddogion Meddygol eraill y DU.

Dechreuodd Dr Tony Jewell ei swydd fel Prif Swyddog Meddygol Cymru ym mis Ebrill 2006.

Cyn hynny, roedd Dr Jewell yn Gyfarwyddwr Clinigol a Chyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Awdurdod Iechyd Strategol Norfolk, Suffolk a Swydd Gaergrawnt. Bu'n Feddyg Teulu yng nghanol Llundain am 10 mlynedd cyn hyfforddi ym maes iechyd y cyhoedd yn East Anglia.

Mae wedi gweithio yn yr Adran Iechyd ac ef yw Llywydd diwethaf Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU.