Skip to content

Sefydliadau

Darperir y gwasanaethau iechyd yng Nghymru drwy nifer o gyrff statudol a rhai darparwyr annibynnol.

Ar 1 Hydref 2009, daeth y diwygiadau mwyaf yn hanes y GIG mewn cenhedlaeth i rym yng Nghymru. Yn wreiddiol, roedd 22 Bwrdd Iechyd Lleol a saith Ymddiriedolaeth GIG ac wedi cymryd eu lle, mae saith Bwrdd Iechyd Lleol integredig sy’n gyfrifol am yr holl wasanaethau gofal iechyd.

Yn ogystal, dechreuodd sefydliad iechyd cyhoeddus unedig newydd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, weithredu'n llawn. Bydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, yr Ymddiriedolaeth canser arbenigol, yn parhau i weithredu yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.