Skip to content

Cyflwr Iechyd

Dolenni perthnasol

Bydd y cynllun gweithredu yn cefnogi pobl i fyw bywydau mwy iach a chynyddu ymwybyddiaeth o’r ffactorau sy’n cynyddu’r risg o gael strôc.
Hybu iechyd da drwy gydol eich oes.
monitor ar gyfer y galon

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn mynd i'r afael â nifer o'r heriau o ran afiechydon difrifol sy'n wynebu Cymru

Ymhlith y problemau sy'n wynebu'r GIG mae'r ffaith bod un ym mhob tri oedolyn yng Nghymru, sef tua 800,000 o bobl, yn dioddef o leiaf un cyflwr cronig.

Mewn nifer o achosion nid yw'r cyflyrau cronig yn bygwth bywyd. Mae canser a chlefyd y galon yn enghreifftiau o afiechydon y gellir bellach eu trin. Golyga hyn felly eu bod yn gyflyrau y mae pobl yn dioddef ohonynt, yn hytrach nag yn gyflyrau y bydd pobl yn marw ohonynt.

Yn ogystal â chanser a chlefyd y galon mae'r cyflyrau cronig eraill yn cynnwys y rhai sy'n effeithio ar:

  • iechyd meddwl;
  • asthma;
  • ffibrosis systig;
  • broncitis;
  • emffysema;
  • strôc;
  • epilepsi;
  • sglerosis ymledol;
  • clefyd Parkinson;
  • clefyd Alzheimer;
  • arthritis;
  • osteoporosis;
  • anafiadau i asgwrn y cefn; a
  • diabetes.

Bydd Llywodraeth Cymru yn helpu pobl yng Nghymru sydd ag afiechydon difrifol drwy:

  • wella safonau iechyd;
  • darparu gofal sydd o safon uchel ac sy’n ymateb i’r angen; a 
  • defnyddio adnoddau yn effeithiol ac effeithlon.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r afiechydon difrifol hyn drwy:

  • bennu cyfeiriad strategol clir ar gyfer polisi iechyd a gofal cymdeithasol;
  • sicrhau bod gwasanaethau yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol;
  • gwerthuso effeithiolrwydd y gwasanaethau mewn perthynas â Thargedau Cynnydd mewn Iechyd 2012;
  • lleihau anghysonderau iechyd;
  • creu amgylchedd sy'n annog cleifion a defnyddwyr y gwasanaeth i fod yn annibynnol;
  • creu partneriaethau effeithiol ar draws y GIG, iechyd cyhoeddus, llywodraeth leol a sefydliadau gwirfoddol;
  • trafod gyda chleifion, defnyddwyr gwasanaethau, y staff a'r cyhoedd yn gyffredinol;
  • creu system gynllunio newydd;
  • sicrhau mwy o atebolrwydd er mwyn gwella perfformiad yn gyflymach;
  • annog datblygu polisïau ac arferion ar sail tystiolaeth; a 
  • hyrwyddo arweiniad clinigol a phroffesiynol.