Skip to content

Cefndir

Dolenni perthnasol

Gosod cyfeiriad strategol ar gyfer iechyd cyhoeddus tan 2020.
Rydym eisiau clywed eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru.

Gweithio tuag at wella iechyd rhywiol poblogaeth Cymru.

Ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru lansio ei Fframwaith Strategol ar gyfer Hybu Iechyd Rhywiol yng Nghymru yn 2001, mae iechyd rhywiol a gwasanaethau iechyd rhywiol wedi newid er gwell.

Mae llai a llai o achosion newydd o gonorea wedi ymddangos ers 2004 ac mae’r un peth yn wir am clamydia ers 2005.

Mae’n bwysig adlewyrchu ar y datblygiadau cadarnhaol sydd wedi’u cyflawni ers 2001 ac i roi mwy o bwyslais ar y materion hyn lle gellir gwneud mwy o gynnydd.  

Fel rhan o’r gwaith datblygu ‘Ein Dyfodol Iach’, y fframwaith strategol ar gyfer hybu iechyd rhywiol yng Nghymru, nododd y grŵp gorchwyl a gorffen sy’n ystyried ymddygiad a risg sy’n ymwneud ag iechyd, bod iechyd rhywiol yn her o hyd.

Gellir gweld gwybodaeth bellach am afiechydon â drosglwyddir yn rhywiol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig)