Bwydo ar y Fron
Y dechrau gorau ar gyfer eich babi
Ein nod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r manteision iechyd y mae bwydo ar y fron yn eu rhoi i fabanod, fel mwy o ddiogelwch rhag:
- gastro-enteritis
- heintiau ar y frest a’r glust
- diabetes
- alergeddau ac afiechydon eraill.
Bydd hefyd yn diogelu mamau rhag rhai mathau o ganser ac esgyrn gwan yn ddiweddarach mewn bywyd.
Dilynwch y dolenni at eich grŵp bwydo ar y fron lleol, a chysylltwch â nhw i gael mwy o fanylion am weithgareddau yn eich ardal.
"Bwydo ar y fron"
Mae disg amlbwrpas digidol (DVD) wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer rhieni dan y teitl 'From bump to breastfeeding.' Am ragor o wybodaeth ac i wylio darn o'r DVD ewch i wefan best beginnings (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Cyhoeddi cyngor diwygiedig ar fwyta pysgnau pan yn feichiog, yn bwydo ar y fron, neu yn y misoedd cynnar.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) Cymru nawr yn cynghori:
- Ei bod yn ddiogel i famau sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron fwyta pysgnau neu fwydydd sy’n cynnwys pysgnau, p’un a oes hanes o alergeddau yn eu teulu ai peidio.
- Y dylai mamau fwydo’u babanod ar y fron yn unig hyd at 6 mis. Os bydd mam am ddechrau rhoi bwydydd solet yn gynharach na hynny, ni ddylai roi pysgnau na chnau eraill, hadau, llaeth, wyau, gwenith, pysgod, pysgod cregyn (neu fwydydd sy’n cynnwys y rhain) tan ar ôl y 6 mis cyntaf.
- Y dylai’r fam siarad â’i Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd neu’r arbenigwr meddygol priodol os bydd gan blentyn alergedd sy’n hysbys, neu os bydd gan ei deulu agos hanes o alergeddau.
Dolenni cysylltiedig allanol
Am wybodaeth bellach ewch i wefan yr ASB
Ewch at wefan ‘Bwyta’n Iach, Teimlo’n Iach’ yr FSA am alergedd i bysgnau – cyngor cyffredinol
Ceir gwybodaeth fanylach ynglŷn â pha fwydydd i’w hosgoi ar gyfer y grwpiau canlynol.
