Skip to content

Bwydo ar y Fron

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Bwydo ar y Fron

Bwydo ar y Fron

 

Y dechrau gorau ar gyfer eich babi

DVD Bwydo ar y fron

Am ragor o wybodaeth ac i wylio darn o'r DVD ewch i www.bestbeginnings.info (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ymwybyddiaeth

Ein nod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r manteision iechyd y mae bwydo ar y fron yn eu rhoi i fabanod, fel mwy o ddiogelwch rhag

  • gastro-enteritis 
  • heintiau ar y frest a’r glust
  • diabetes
  • alergeddau ac afiechydon eraill.  

Bydd hefyd yn diogelu mamau rhag rhai mathau o ganser ac esgyrn gwan yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Dilynwch y dolenni at eich grŵp bwydo ar y fron lleol, a chysylltwch â nhw i gael mwy o fanylion am weithgareddau yn eich ardal.

Wythnos ymwybyddiaeth bwydo ar y fron  

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio tynnu sylw arbennig at bwysigrwydd bwydo ar y fron yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Bwydo ar y Fron.  

Anogir gweithwyr iechyd proffesiynol a chynorthwywyr mamau i drefnu digwyddiadau lleol a fydd yn annog pobl i ddechrau meddwl am yr hyn y gallai bwydo ar y fron ei olygu iddyn nhw a’u babanod.

Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â hyrwyddo bwydo ar y fron, cysylltwch â ni i gael deunyddiau hyrwyddol, gan gynnwys posteri, baneri, bibiau ac ysgrifbinnau,breastfeeding@wales.gsi.gov.uk.

Dolenni perthnasol

Mae llawer o fenywod sy'n bwydo ar y fron yn gallu parhau i fwydo ar ôl dychwelyd i'r gwaith.
Bwriad y digwyddiadau hyn yw tynnu sylw at bwysigrwydd bwydo ar y fron er iechyd babanod a’u mamau.
Cyflwyno bwydydd soled neu ddiddyfnu yw’r cyfnod nesaf yn natblygiad eich babi.
Sefydlwyd y Cynllun Grantiau Cefnogi Bwydo ar y Fron i gefnogi, datblygu a hyfforddi grŵpiau o famau sy’n bwydo ar y fron i gefnogi ei gilydd.