Gwella Iechyd
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn golygu rhoi cyfle cyfartal i bawb gael gafael ar gyfleusterau a gwasanaethau iechyd.
Ein ffordd
Ein ffordd ni o fynd ati i wella iechyd yw hyrwyddo iechyd da trwy gydol bywydau pobl Cymru - o dyfu i fyny'n iach i heneiddio'n iach. Rydym ni'n gwneud hyn trwy annog pobl i newid eu ffyrdd o fyw er mwyn gwella eu hiechyd.
Rydym ni hefyd yn cynorthwyo eich cymuned a llywodraeth leol i newid amryw o ffactorau yn yr amgylchedd a'ch gweithle sy'n effeithio ar eich iechyd.
Rydym yn canolbwyntio ar atal afiechyd yn y lle cyntaf, ac ar fynd i'r afael â phroblemau yn gynnar.
O'r dudalen hon, cewch fwy o wybodaeth ar wella iechyd pobl hŷn, plant a phobl ifanc, gan gynnwys cyngor ar iechyd yn ystod beichiogrwydd. Cewch wybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd yn y gweithle ac yn y gymuned.
Mae'r adran hon hefyd yn esbonio sut y gall bwyd, gweithgarwch corfforol a smygu effeithio ar eich iechyd. Yn ogystal, os ydych chi eisiau cyngor ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd rhywiol, neu gyngor ar ddiogelu eich iechyd trwy gydol y flwyddyn, cewch afael arno yma.
Cewch fwy o wybodaeth eto am wella iechyd:
Iechyd Cyhoeddus Cymru (dolen allanol)
