Skip to content

Hawliau dynol

Hawliau Dynol yw'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol sydd gan bob person yn y byd. Maent yn seiliedig ar egwyddorion craidd fel urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth.

Mae Hawliau Dynol yn berthnasol i'ch bywyd bob dydd. Maent yn diogelu eich rhyddid i reoli eich bywyd eich hun, cyfrannu’n effeithiol at benderfyniadau awdurdodau cyhoeddus sy'n effeithio ar eich hawliau, a chael gwasanaethau teg a chyfartal gan awdurdodau cyhoeddus.

I adlewyrchu hyn, mae corff statudol newydd bellach yn bodoli yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol yn cael eu hyrwyddo a'u parchu; y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae’r corff hwn wedi dwyn ynghyd y tri comisiwn statudol blaenorol sef y Comisiwn Hawliau Anabledd, y Comisiwn Cyfle Cyfartal a'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.    

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli a bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gallu gweithredu'n effeithiol yng Nghymru yn unol â'r drefn o ran datganoli. Dr Neil Wooding yw Comisiynydd y Comisiwn yng Nghymru a Kate Bennett yw Cyfarwyddwr y Comisiwn yng Nghymru.

Ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gael rhagor o wybodaeth am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol.