Skip to content

Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd yn bolisi newydd sy'n adeiladu ar y Strategaeth Amgylcheddol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2006 a'r ddogfen Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned a gyhoeddwyd ym mis Mai 2009.

Mae'r rhaglen weithredu'n rhestru nifer o feysydd lle gall Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud gwahaniaeth, gan gynnwys helpu pobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru i wneud mwy o ddewisiadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd a newid ymddygiad pobl tuag at y newid yn yr hinsawdd; arwain trwy esiampl a rhoi ystyriaeth i newid yn yr hinsawdd wrth fynd ati i wneud penderfyniadau.