Skip to content

Deddf Cydraddoldeb 2010

Dolenni perthnasol

Ymgynghori ynghylch fersiwn ddrafft Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar sut i lunio dyletswydd ar gyfer awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â chyflog cyfartal rhwng dynion a menywod yn y sector cyhoeddus.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dod â’r holl ofynion cyfreithiol ar gydraddoldeb ynghyd y mae angen i sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol eu diwallu.

Mae’r Ddeddf yn disodli pob cyfraith cydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys:

  • Deddf Cyflog Cyfartal 1970
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
  • Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995

Diben y Ddeddf yw sicrhau bod gan bawb yr hawl i gael ei drin yn deg yn y gwaith ac wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus (megis addysg, tai, llyfrgelloedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac ati) a gwasanaethau preifat gan gynnwys siopau, trafnidiaeth a chyfleusterau hamdden.

Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu ar sail nodweddion penodol, a elwir yn ‘nodweddion gwarchodedig’. Sef:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu Rhywedd
  • Priodas neu Bartneriaeth Sifil
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu Gred
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Rhyw (Rhywedd)

I gael rhagor o wybodaeth am y Bil Cydraddoldeb, anfonwch neges e-bost i  EDIDMailbox@wales.gsi.gov.uk neu ffonio 029 20823578.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu canllawiau am y Ddeddf Cydraddoldeb a’r hyn y mae’n rhaid i sefydliadau a busnesau ei wneud i gydymffurfio â hi. Gweld Canllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.