Skip to content

Plant!

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Plant!

logo Plant!

Coeden ar gyfer pob plentyn yng Nghymru

Mae Plant! yn brosiect arbennig iawn, a'i nod yw annog pobl ifanc i deimlo eu bod yn berchen ar eu hamgylchedd yn ogystal â'u helpu i chwarae rhan ymarferol mewn gwella a gwarchod cynefinoedd brodorol Cymru. Plant yn chwarae mewn coetir.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud adduned i blannu coeden i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru o 1 Ionawr 2008 ymlaen i helpu i greu Coedwig Genedlaethol Gymreig o goed brodorol mewn sawl safle yng Nghymru.

Cafwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer y cynllun gan Natalie Vaughan, merch ysgol 11 oed o Gaerdydd, a ysgrifennodd at Sue Essex, ei Haelod Cynulliad, gan awgrymu y byddai plannu coeden ar gyfer pob plentyn a gâi ei eni neu ei fabwysiadu yn ffordd dda o wneud i bobl ifanc feddwl am eu hamgylchedd a'u rôl hwy yn y gwaith o'i ddiogelu.

Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, a teulu lleol yn lansiad safle Coed Ysgubor Wen.
Bydd y prosiect hefyd yn helpu i gryfhau'r berthynas rhwng pobl Cymru a'u hamgylchedd ac yn gwella cynefinoedd brodorol, a bydd yn gyfle i rieni wneud eu rhan i feithrin planed iach lle mae eu plentyn a'u coeden yn tyfu. Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif yn nodi ble mae eu coeden hwy wedi cael ei phlannu. Drwy blannu coeden i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru, bydd Plant! yn creu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
 

Cynllun o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r prosiect Plant! ac mae'n cael ei redeg ar ei rhan gan Goed Cadw a'r Comisiwn Coedwigaeth.

Dolenni perthnasol

Wybodaeth am Goed Cadw
Mae newid yn yr hinsawdd yn un o'r sialensiau mwyaf sy'n wynebu'r byd.
Ymatebion i'ch cwestiynau ar gyfer "Plant!" gan gynnwys pe bai angen i chi gadarnhau os hoffwch weld coeden yn cael ei phlannu ar ran eich plentyn?
Mae Dr Tony Jewell, y Prif Swyddog Meddygol, yn annog pawb i gymryd eu camau cyntaf i fywyd iachach, sy'n cynnwys mwy o ymarfer corff.
Ein nod yw rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.