Plant!
Datblygwyd y prosiect Plant! fel rhan o agenda Cymru'n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal coetiroedd cynhenid drwy greu Coedwig Genedlaethol Gymreig o goed brodorol i weithredu fel suddfan carbon. Felly, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn trefnu bod coeden yn cael ei phlannu i nodi genedigaeth neu fabwysiadu pob plentyn yng Nghymru o 1 Ionawr 2008 ymlaen.
Cafodd y cynllun ei lansio gan Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, ar 18 Rhagfyr 2007 ar y safle cyntaf, sef Cefn Ila ger Brynbuga yn sir Fynwy, ond cafwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer y cynllun gan Natalie Vaughan, merch ysgol 11 oed o Gaerdydd, a ysgrifennodd at Sue Essex, ei Haelod Cynulliad, gan awgrymu y byddai plannu coeden ar gyfer pob plentyn a gâi ei eni yn ffordd dda o wneud i bobl ifanc feddwl am eu hamgylchedd a'u rôl hwy yn y gwaith o'i ddiogelu.
Bydd y prosiect hefyd yn helpu i gryfhau'r berthynas rhwng pobl Cymru a'u hamgylchedd ac yn gwella cynefinoedd brodorol. Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif a fydd yn nodi ble y mae eu coeden hwy wedi cael ei phlannu. Drwy blannu coeden i nodi genedigaeth pob plentyn a enir yng Nghymru, bydd Plant! yn creu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cynllun o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r prosiect Plant! ac mae'n cael ei redeg ar eu rhan gan Goed Cadw a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Anfonir y tystysgrifau at y rhieni gan y Swyddfa Gofrestu Genedlaethol, sy'n ymgymryd â'r elfen hon o'r prosiect ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn diogelu gwybodaeth gyfrinachol am y rhieni a'u plant o dan Ddeddf Gwarchod Data 1998.
