Skip to content

Prynu bwyd a diod o Gymru

Dolenni perthnasol

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau bwyd am ddim ar draws Llundain i ddathlu Wythnos Cymru.
Cyfeiriadur Bwyd a Diod gan Bobl Cymru yw rhestr Llywodraeth Cymru o gynhyrchwyr bwyd a diod.
Mae cyrchu bwyd a diod yn lleol yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am frand Cymru Y Gwir Flas a ble i brynu cynnyrch o Gymru.

Mae enw da Cymru ar gyfer cynhyrchu, gwerthu a gweini bwyd arloesol o safon bellach wedi cydio, yma yn y DU a thramor. Mae nifer o resymau dros brynu cynnyrch o Gymru a gallwch ddod o hyd i gynnyrch o Gymru mewn nifer o wahanol fannau.

Mae cogyddion yn chwilio am gynnyrch o Gymru ac mae siopwyr a chwsmeriaid  bwytai yn ei werthfawrogi’n fwy. Mae daearyddiaeth, yr hinsawdd ac arferion ffermio oll yn chwarae’u rhan, ond y buddsoddiad a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru i helpu cynhyrchwyr ddatblygu a marchnata bwyd a diod sy’n bennaf gyfrifol am y cynnydd yn yr ansawdd a’r ystod o gynnyrch o Gymru. Yn sail i hynny mae ein Strategaeth Cyrchu Lleol, a gallwch ddarllen mwy am y strategaeth honno drwy glicio ar y ddolen ar y chwith o'r sgrin.

Edrychwch am y logo

Un arwydd o fwyd a diod rhagorol yw logo gwobrau Cymru Y Gwir Flas. Bydd y mannau sydd wedi ennill un o’r gwobrau hyn yn arddangos un o’r logos canlynol, felly edrychwch amdanynt fel arwydd o ansawdd uchel:

Logo Aur Wobr Gwir Flas

Logo Arian Wobr Gwir Flas

Logo Efydd Wobr Gwir Flas

Logo Cennin Pedr Wobr Gwir Flas

 

 

 

 
Mae brand Cymru Y Gwir Flas wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr bwyd a diod o Gymru. Mae gwobrau bwyd a diod blynyddol Cymru Y Gwir Flas, sy’n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru, bellach yn gwobrwyo arloesedd a rhagoriaeth yn y sector bwyd a diod. I gael rhagor wybodaeth am y gwobrau, cliciwch ar y ddolen ar y dde o'r sgrin.

O ble y gall defnyddwyr brynu cynnyrch o Gymru?

Gallwch ddod o hyd i gynnyrch o ansawdd o Gymru ledled y wlad o siopau deli ac archfarchnadoedd i farchnadoedd a digwyddiadau bwyd. I gael rhagor o wybodaeth am gwyliau bwyd, siopau fferm a marchnadoedd ffermwyr, cliciwch ar y ddolen ar yr ochr chwith o'r sgrin.

Edrychwch hefyd ar Y Cyfeiriadur Bwyd a Diod gan Bobl Cymru (pdf, 10.6MB). Dyma restr o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru gyfan, sydd hefyd yn rhoi manylion am eu cynnyrch a gwobrau Cymru Y Gwir Flas. Mae nifer ohonynt yn gwerthu’u cynnyrch ar-lein a gallwch glicio ar ddolenni i fynd i’w gwefannau.

Gallwch flasu cynnyrch o Gymru mewn nifer o sioeau bwyd. Mae gan gwmnïau o Gymru bresenoldeb mewn sioeau megis y BBC Good Food Show a’r Speciality and Fine Food Fair ynghyd â Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf. I gael rhagor wybodaeth am y sioeau bwyd cliciwch ar y ddolen yn y sydd ar yr ochr chwith o'r sgrin.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cymru y Gwir Flas (dolen allanol).

O ble y gall prynwyr masnach gyrchu cynnyrch o Gymru?

Cyfeiriadur Bwyd a Diod gan Bobl Cymru yw rhestr Llywodraeth Cymru o gynhyrchwyr bwyd a diod. Yn ogystal â rhestru cynhyrchwyr cynradd, y mae hefyd yn cynnwys adran ar gyfanwerthwyr a dosbarthwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn helpu cwmnïau i arddangos mewn sioeau masnach. Gallwch ymweld â stondinau bwyd a diod y cynhyrchwyr mewn sioeau bwyd a diod yng Nghymru, Lloegr a thramor er mwyn dysgu mwy amdanynt a blasu’u cynnyrch. I gael rhagor o fanylion am y sioeau y byddwn ni’n eu mynychu cysylltwch â RA-MDU@wales.gsi.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen "Prynu Cynnyrch Lleol" ar wefan Cymru y Gwir Flas (dolen allanol).