Skip to content

Cymorth Gwladwriaethol

Dolenni perthnasol

Ydych chi'n gyfrifol am roi cymorth cyhoeddus, naill ai cymorth ariannol neu gymorth arall, i sefydliadau sy'n ymwneud â gweithgarwch masnachol ac economaidd?
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.



Term gan y Comisiwn Ewropeaidd yw cymorth gwladwriaethol ar gyfer gymorth gan gorff cyhoeddus neu gorff sy'n cael ei noddi'n gyhoeddus.

Rhaid i'r holl gymorth cyhoeddus sy'n cael ei ddarparu i sefydliadau sy'n gysylltiedig ag anweithgarwech economaidd gydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol Ewropeaidd.

Cynlluniwyd rheolau cymorth gwladwriaethol er mwyn rheoleiddio cymorthdaliadau ac atal awdurdodau cyhoeddus rhag gwyrdroi'r marchnadoedd. Maent hefyd yn helpu awdurdodau cyhoeddus i sicrhau bod adnoddau cyhoeddus prin yn cael eu targedu lle mae eu hangen fwyaf a hynny mewn dull effeithlon ac effeithiol.

Mae rheolaeth effeithiol ar gymorth gwladwriaethol yn sicrhau tegwch a chystadleuaeth rydd a theg yn y farchnad sengl. Mae hefyd yn diogelu rhag rhuthro am iawndaliadau a diffyndollaeth genedlaethol.

Am fwy o wybodaeth ar gyfer Cymorth Gwladwriaethol, gallwch ddilynol dolen i'r dde o'ch sgrin.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch a Cymorth Amaeth Gwladwriaethol, cysylltwch â: materion-gwledig@wales.gsi.gov.uk.

Cynllun Dileu TB mewn gwartheg Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cynllun Dileu TB mewn gwartheg Llywodraeth Cynulliad Cymru

10/11/09
Mae’r dogfen yma yn amlinellu manylion o Gynllun Dileu TB mewn gwartheg Llywodraeth Cynulliad Cymru Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol cyf XA1/2010