Skip to content

Ffermio a gwybodaeth cynllun

Dolenni perthnasol

Ble rydym ni? Sut gallwch gysylltu a'ch swyddfa lleol? Cewch wybod yma.
Gall Cyswllt Ffermio ddarparu cymorth, canllawiau, cyngor a hyfforddiant un-i-un.
Rydyn ni’n cynnig cyngor a gwybodaeth amrywiol i helpu busnesau Cymru i dyfu a ffynnu.
Mae Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) Cymru 2007-2013 yn rhan o strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
tractor

Yma cewch wybodaeth am eich busnes ffermio gan gynnwys cynlluniau, y Polisi Amaethyddol Cyffredin, Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a Hwyluso'r Drefn.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog amaethyddiaeth ar lefel gynaliadwy ac yn cynorthwyo ffermwyr i addasu ar gyfer y dyfodol. Maent yn gobeithio datblygu incwm a chyflogaeth mewn ardaloedd gwledig drwy gefnogi'r gymuned. Maent hefyd yn ystyried bod diogelu swyddi a gwella amgylchedd a bywyd gwyllt Cymru.

Drwy gyfrwng stiwardiaeth sensitif o adnoddau naturiol a'u datblygu'n gynaliadwy, mae Llywodraeth Cymru yn anelu at y canlynol:

  • Cael mgylchedd glân, iach a diogel;
  • Cynnal safonau ein tir, aer a dŵr; and,
  • Sicrhau bod y bobl yn mwynhau cyfoeth yr hyn sydd o'u cwmpas.

Mae ffermio yng Nghymru yn cwmpasu pob elfen o gynhyrchu amaethyddol 

  • Defaid - Diadell fagu o dros 5 miliwn o famogiaid ac wyn benyw (28% o ddidadell y DU) o fewn cyfanswm o oddeutu 11 miliwn o anifeiliaid;
      
  • Eidion - Buches magu o tua 233,000 o fuchod a heffrod cyflo (14% o gyfanswm buches y DU);
     
  • Llaeth - Mae'r llaeth a gynhyrchir yn cynrychioli tua 10% o gyfanswm y DU.  Sir Gaerfyrddin yw'r rhanbarth cynhyrchu llaeth pwysicaf. Mae proseswyr yn amrywio o hufenfeydd bychan lleol i wneuthurwyr caws mwy arbenigol;   
     
  • Moch - Dim ond 3.7% o ddaliadau amaethyddol Cymru yn cadw moch. (1% o gyfanswm y DU);
     
  • Ceffylau - Wedi bod yn ffordd draddodiadol o wneud incwm ar ffermydd Cymru;
     
  • Ceirw, geifr, alpacaod, gwanacoid, lamas, estrys a byffalo;
     
  • Cnydau - Oherwydd natur ddaerayddol Cymru nid yw ffermio âr yn gyffredin iawn ond y prif gnydau sy'n cael eu ffermio yw tatws, haidd a gwenith.

Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC)

Mae diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin wedi arwain at sail newydd ar gyfer talu ffermwyr. Pan ddisodlwyd yr hen systemau cymhorthdal gan y Taliad Sengl yn 2005, torrwyd y cyswllt rhwng taliadau PAC a chynhyrchiant, sy'n golygu nad oes yn rhaid i ffermwyr bellach orfod gynnal lefelau uchel o gynhyrchiant i gael cymhorthdal. Mae hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio ar gynhyrchu'r hyn mae'r farchnad yn ei ddymuno ac i ffermio mewn ffordd eco-gyfeillgar. Mae Cynllun y Taliad Sengl yn dyrannu taliadau unwaith y flwyddyn, ar sail y cymorthdaliadau a dderbyniwyd, a'r tir a ddefnyddiwyd, rhwng 2000 a 2002.

Mae ffermwyr hefyd yn cael eu hannog i reoli eu tir mewn ffordd sy'n sensitif i'r amgylchedd drwy'r cynlluniau amaeth-amgylcheddol - Tir Cynnal, Tir Gofal a Tir Mynydd. Yn 2012, bydd yn cymryd lle'r cynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol gan adael dim ond Glastir i gynnig atebion i broblemau amgylcheddol y dyfodol.